Buddugoliaeth o 3-1 dros Norwich oedd anrheg pen-blwydd rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock neithiwr.

Sgoriodd Joe Ralls, Junior Hoilett ac Omar Bogle i roi eisin ar gacen pen-blwydd y rheolwr yn 69 oed.

Daeth yr holl goliau yn yr ail hanner ar ôl i’r Adar Gleision fod ar ei hôl hi ar yr egwyl drwy gôl gan Marco Stiepermann.

Maen nhw bellach yn un pwynt y tu ôl i Wolves, sydd ar frig y Bencampwriaeth.

Ond yr ymwelwyr gafodd y cyfle cyntaf wrth i gic rydd Wes Hoolahan ddarganfod Grant Hanley yn y cwrt cosbi, ond fe beniodd hwnnw’n wan i gyfeiriad y gôl.

Cafodd y naill dîm a’r llall nifer o ergydion digon siomedig wedyn cyn i Tim Klosse weld cerdyn melyn am drosedd ar Nathaniel Mendez-Laing.

Methiant amddiffynnol arweiniodd at gôl Norwich wrth i Wes Hoolahan fanteisio ar ddiffyg ymdrech i glirio’r bêl, ac fe ergydiodd yr Almaenwr o 25 llathen.

 

 

Ond y Cymry gafodd y gorau o’r ail hanner wrth i Sol Bamba ergydio i’r rhwyd toc ar ôl i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn i Gaerdydd.

Sgoriodd Joe Ralls ac roedd y momentwm gyda’r Adar Gleision.

Daeth yr ail gôl o gamgymeriad amddiffynol wrth i Junior Hoilett ergydio ar ôl i ergyd Loic Damour gael ei hatal.

 

 

 

Daeth gôl Omar Bogle yn hwyr yn y gêm i goroni’r cyfan.