Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe wedi rhybuddio am berygl un o gyn-chwaraewyr yr Elyrch wrth iddyn nhw deithio i Stoke yfory.

Aeth Joe Allen i Lerpwl am £15 miliwn yn 2012 cyn mynd i Stoke y llynedd am £13 miliwn.

Fe geisiodd yr Elyrch ail-arwyddo’r Cymro dros yr haf, ond roedd Stoke eisiau £25 miliwn, a fyddai wedi bod yn record i Abertawe ar y pryd.

Ond mae’n bosib y gallai’r Elyrch edrych o’r newydd arno fe wrth iddyn nhw geisio cryfhau elfennau ymosodol y tîm, ar ôl methu â llenwi bylchau sydd wedi’u gadael gan Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente.

Dywedodd Paul Clement: “Mae e’n bêl-droediwr da iawn. Dyw e ddim yn gyfrinach ei fod e’n chwaraewr roedd gyda ni ddiddordeb i’w ddenu’n ôl ond am amryw resymau, doedd hynny dim yn bosib, ac fe fydd e’n un o’r chwaraewyr allweddol hynny y mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd e’n dechrau rheoli’r gêm a’i heffeithio’n ormodol.”

Ymosodwyr

Yn ôl Paul Clement, fe fydd yr Elyrch yn canolbwyntio ar recriwtio ymosodwyr ym mis Ionawr pan fydd y ffenestr drosglwyddo’n agor unwaith eto.

Ac fe allai’r Cymro ffitio’n berffaith i dîm sydd angen sbarc ychwanegol er mwyn creu goliau, sy’n un o’u gwendidau’r tymor hwn gyda dim ond saith gôl mewn 14 o gemau.

“Pan welwch chi ein record goliau, mae’n rhaid i ni gryfhau’r safleoedd ymosodol.

“Sawl chwaraewr fydd hynny, dw i ddim yn gwybod. Ond mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen.

“Ry’n ni eisiau targedu [chwaraewyr] da iawn ond realistig. Chwaraewyr sy’n dod â mwy o dalent i mewn ond sy’n realistig.

“Mae’n anodd crybwyll nifer ond fe fyddai un neu ddau mewn safleoedd ymosodol yn gymorth.”

Saith awr heb gôl

Mae’r Elyrch bellach wedi chwarae am saith awr heb sgorio’r un gôl ond mae Paul Clement yn gobeithio y gallai dewis Wilfried Bony a Tammy Abraham gyda’i gilydd ddwyn ffrwyth.

“Dyma’r tro cyntaf i fi brofi [cyfnod heb goliau] a’r math yma o berfformiadau. Mae’n rhwystredigaeth. Ond dw i’n aros yn bositif.

“Fel tîm, ry’n ni’n amddiffyn ar lefel dda. Pan edrychwch chi ar y ffaith ein bod ni wedi ildio dim ond 16 gôl, mae ein hamddiffyn oddi cartref yn drydydd i Chelsea a Man City.

“Ry’n ni’n drefnus. Ry’n ni’n gwybod ein swyddi. Yr hyn ry’n ni’n ei gael yn anodd yw creu digon.

“Dw i’n credu y bydd Tammy yn ffres, a dw i eisiau gweld sut siâp sydd ar Wilf ar ôl chwarae 90 munud mewn dwy gêm yn olynol am mai dyna’r tro cyntaf iddo fe wneud hynny ers amser hir iawn.

“Allwch chi ddim barnu’r bartneriaeth ar 45 munud felly mae hynny’n rhywbeth i’w ystyried oherwydd pan nad y’ch chi’n creu, mae angen i chi feddwl am gael chwaraewyr ymosodol ar y cae.”