Does dim cynlluniau gan Glwb Pêl-droed Abertawe i anfon Renato Sanches yn ôl i Bayern Munich yn gynnar, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Fe fynnodd bod angen helpu’r chwaraewr i adfer ei hyder gan ddweud y bydd yn gallu gwneud cyfraniad i’r tîm sy’n brwydro i osgoi cwympo o’r Uwch Adran.

Mae adroddiad papur newydd yn awgrymu ei bod yn costio tua £7 miliwn i Abertawe fenthyca’r chwaraewr o Bayern Munich am y tymor.

Ddim wedi tanio

Dyw’r chwaraewr canol cae, oedd yn un o sêr ifainc Portiwgal yn Ewro 2016, ddim wedi tanio ers dechrau ei gyfnod ar fenthyg yng Nghymru, ac fe gafodd ei dynnu o’r cae ar yr egwyl yn y gêm yn erbyn Chelsea nos Fercher.

Fe gafodd e feirniadaeth hallt hefyd gan sylwebyddion BT Sport ar ôl y gêm yn erbyn Bournemouth y penwythnos diwethaf.

Ac mae amheuon ar hyn o bryd a fydd e’n cael ei ddewis ar gyfer y daith i Stoke ddydd Sadwrn, gan fod gan yr Elyrch ddigonedd o chwaraewyr canol cae.

‘Siomedig’

Roedd cynrychiolwyr o Bayern Munich yn Stamford Bridge yn gwylio’r perfformiad siomedig, wrth i’r Elyrch golli o 1-0 i’w cadw yn y safleoedd disgyn.

Fe ddaeth yr ennyd waetha’ i’r Portiwgead pan basiodd y bêl ar arwydd coch ar ochr y cae a oedd yr un lliw â chrysau oddi cartre’r Elyrch.

Ond mae Paul Clement yn mynnu y bydd Renato Sanches yn cael digon o gyfle eto i brofi ei werth i’r tîm.

“Pan fydd gyda chi chwaraewr talentog fel’na sy’n brin o hyder ond r’ych chi’n gwybod fod gyda fe dalent ac os yw e’n cyrraedd ei botensial y bydd e’n helpu’r tîm, rhaid i chi geisio’i reoli fe yn y ffordd orau bosib.”

 ‘Ei berfformiad gwaethaf’

Fe gyfaddefodd Paul Clement mai’r perfformiad Renato Sanches yn erbyn Chelsea yw “ei waethaf hyd yn hyn” a’i fod e wedi ei dynnu fe oddi ar y cae “i’w warchod e a’r tîm”.

“Ro’n i’n meddwl y byddai’n fygythiad yn ymosodol ond mae’n amlwg ei fod e’n ei chael hi’n anodd.

“R’yn ni’n credu ynddo fe ac mae’r byd pêl-droed ledled Ewrop yn gwybod ei fod e’n chwaraewr da.

“D’yn ni ddim wedi’i weld e’n agos at ei orau ond r’yn ni’n gweithio’n galed iawn i’w helpu fe i wneud hynny.”

Ymarfer

Yn ôl Paul Clement, mae Renato Sanches yn perfformio’n well ar y cae ymarfer nag yw e yn ystod gemau.

“Does dim angen i fi ddweud, pe bai e’n ymarfer fel’na, fyddai e ddim yn cael ei ddewis ar gyfer gemau. Mae e’n gwneud gwaith da o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn gweithio’n galed. 

“Bydda i’n parhau i’w gefnogi fe fel ein holl chwaraewyr ni; maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth lawn.”