Chelsea 1–0 Abertawe                                                                     

Mae tymor gwael Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge nos Fercher.

Roedd un gôl Antonio Rudiger yn gynnar yn yr ail hanner yn ddigon i’r pencampwyr wrth iddynt gadw’r Elyrch yn safleoedd y gwymp.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond bu rhaid iddynt aros tan ddeg munud wedi’r egwyl am y gôl agoriadol, Rudiger yn penio i mewn wedi i ergyd N’Golo Kante wyro’n garedig iddo.

Cafodd Chelsea lu o gyfleoedd i ddyblu eu mantais ond roedd un gôl yn ddigon i dîm Antonio Conte, a dreuliodd yr ail hanner yn gwylio o’r eisteddle ar ôl cael ei anfon oddi wrth ochr y cae gan y dyfarnwr.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl a gwahaniaeth goliau’n unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Crystal Palace ar y gwaelod.

.

Chelsea

Tîm: Courtois, Rudiger, Christensen, Cahill, Zappacosta (Moses 75’), Fabregas, Kante, Alonso, Willian (Drinkwater 81’), Pedro (Hazard 81’), Morata

Gôl: Rudiger 55’

Cerdyn Melyn: Morata 90’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng, Mesa (McBurnie 65’), Carroll, Renato Sanches (Fer 45’), Bony, Ayew (Routledge 84’)

.

Torf: 41,365