Fydd amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Abertawe, Federico Fernandez ddim ar gael ar gyfer dwy gêm nesaf ei dîm yn dilyn marwolaeth ei dad.

Mae’r Archentwr wedi dychwelyd i’r Ariannin ac felly fydd e ddim yn y tîm i wynebu Chelsea yn Stamford Bridge nos Fercher na Stoke yn Stadiwm Bet365 ddydd Sadwrn.

Fe fydd e’n dychwelyd mewn da bryd ar gyfer ymweliad West Brom â Stadiwm Liberty ar Ragfyr 9.

Mae’n debygol mai’r ymosodwr Wilfried Bony, oedd yn gapten ar gyfer y gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn, fydd yn arwain y tîm unwaith eto nos Fercher.

Fydd yr ymosodwr arall, Tammy Abraham, sydd ar fenthyg o Chelsea, ddim ar gael oherwydd rheolau’r Uwch Gynghrair.

Ond mae’r prif hyfforddwr Paul Clement yn credu y gall Wilfried Bony arwain o’r rheng flaen yn ei ail gyfnod gyda’r clwb.

“Roedd e’n arweinydd pan oedd e yma o’r blaen. Mae e’n ôl yma ac yn canolbwyntio ar gael ei hun yn ffit oherwydd mae e wedi’i chael hi’n anodd, ond mae e mewn lle gwell.

“Mae e wedi cael 90 munud cryf [yn erbyn Bournemouth], wedi magu ychydig o hyder a gadewch i ni weld beth sy’n digwydd yn y ddwy gêm nesaf. Dw i’n disgwyl iddo fe fod yn gryf.”

Mike van der Hoorn

Yn absenoldeb Federico Fernandez, yr Iseldirwr Mike van der Hoorn fydd yn cymryd ei le yng nghanol yr amddiffyn.

Mae e wedi chwarae mewn wyth gêm y tymor hwn ac yn ôl Paul Clement, fe gafodd e gêm dda yn erbyn Bournemouth ar ôl cael ychydig iawn o rybudd ei fod e’n dechrau ar y cae.

“Pan ddywedodd Federico beth oedd ei sefyllfa, fe ges i afael ar Mike fel bod ganddo fe amser i baratoi. Fyddai e ddim wedi teimlo ei fod e’n dechrau, felly fe wnes i roi gwybod iddo fe.

“Mae e bob amser wedi ymarfer yn dda ac wedi canolbwyntio a bod yn broffesiynol. Pan ddaeth cyfleoedd, mae e bob amser wedi bod yn barod i gamu ar y cae, taclo’n dda ac fe wnaeth e’n dda.”

Chelsea

Mae Chelsea yn drydydd yn y tabl, dri phwynt y tu ôl i Man U ond fe allen nhw godi i’r ail safle ar wahaniaeth goliau gyda buddugoliaeth dros yr Elyrch.

Ac mae Paul Clement yn sylweddoli maint y dasg sydd gan ei dîm newydd yn erbyn y tîm y bu’n is-hyfforddwr arno o dan yr Eidalwr Carlo Ancelotti.

“Maen nhw’n gwneud yn dda ac mae cyfleoedd [i sgorio yn eu herbyn nhw] yn brin iawn. Rhaid i chi fod yn glinigol drwy chwarae gosod neu wrthymosod.

“Mae’n dasg anodd. Rydych chi’n mynd yno a chael llai o’r meddiant.”

Mae canol cae Chelsea yn frith o sêr, gan gynnwys Cesc Fabregas, Pedro ac Eden Hazard, ond does gan Paul Clement ddim cynlluniau i dargedu’r un ohonyn nhw’n unigol.

“Does dim cynlluniau arbennig fel marcio fesul dyn. Pan ydych chi’n chwarae yn erbyn Chelsea, mae ganddyn nhw’r gallu ar draws y cae.

“Mae chwaraewyr da drwyddi draw ond dw i’n hoffi’r gemau hyn. Mae’r disgwyliadau’n is ond fel hyfforddwr, mae’n her gyffrous bob amser.”

Alvaro Morata

Un o’r prif fygythiadau fydd Alvaro Morata, chwaraewr y mae Paul Clement yn ei adnabod yn dda o’i gyfnod yn Real Madrid.

“Doedd e ddim wedi chwarae llawer oherwydd fod ganddyn nhw Bale, Benzema a Ronaldo o’i flaen e.

“Chwaraeodd e fwy o gemau i Madrid yr ail waith ond mae’r symudiad hwn [i Chelsea] yn dda iddo fe. Mae e’n gweddu’n dda i’r Uwch Gynghrair, mae e’n dda yn yr awyr, mae ganddo fe gyflymdra ac mae ei arddull yn addas ar gyfer y gynghrair hon.”

Stamford Bridge

Ac mae Paul Clement yntau’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Stamford Bridge.

“Ar ôl gweithio yno cyhyd, bydd hi’n braf mynd yn ôl. Does dim llawer o chwaraewyr ar ôl o’m cyfnod i yno.

“Mae David Luiz yn un ond dw i’n nabod nifer o bobol y tu ôl i’r llenni ac yn edrych ymlaen at eu gweld nhw.”

Y gyfrinach i lwyddiant yn Stamford Bridge, yn ôl Paul Clement, yw amddiffyn yn dda.

“Rhaid i ni gredu y cawn ni gyfleoedd. Os ydych chi’n amddiffyn yn dda, mae timau’n taflu mwy o ddynion ymlaen ac mae hynny’n creu bylchau.

“Rhaid i ni gael y tactegau’n gywir, ond fyddwn ni ddim jyst yn mynd yno i amddiffyn.”