Nottingham Forest 0–2 Caerdydd
Sgoriodd Caerdydd ddwy waith yn yr hanner cyntaf wrth guro Nottingham Forest yn y City Ground brynhawn Sul.
Mae’r Adar Gleision yn aros yn ail yn y Bencampwriaeth diolch i goliau Junior Hoilett a Danny Ward.
Peniodd Hoilett yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Sean Morrison benio’r bêl i’w gyfeiriad.
Methodd Daryl Murphy gyfle da i unioni i Forest cyn i Ward ddyblu mantais yr Adar Gleision mewn steil gydag ergyd dda i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.
Roedd dwy gôl yn ddigon i dîm Neil Warnock wrth iddynt gadw llechen lân yn y pen arall, eu trydedd mewn tair gêm.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth, bedwar pwynt y tu ôl i Wolves ar y brig.
.
Nottingham Forest
Tîm: Smith, Lichaj, Worrall, Mancienne, Traore, Vaughan, Osborn (Cash 78’), Walker, Dowell, McKay (Carayol 68’), Murphy (Brereton 78’)
Cerdyn Melyn: Traore 14’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba (Peltier 79’), Bennett, Paterson, Bryson (Halford 82’),Ralls, Damour, Hoilett, Ward (Gounongbe 85’)
Goliau: Hoilett 24’, Ward 38’
Cardiau Melyn: Paterson 66’, Gounongbe 87’
.
Torf: 25,210