Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi beirniadu’r dyfarnwr Stuart Attwell ar ôl i’w dîm orffen yn gyfartal 0-0 â Bournemouth yn yr Uwch Gynghrair brynhawn ddoe.

Fe allai rhediad yr Elyrch o bedair colled o’r bron fod wedi dod i ben â buddugoliaeth ar ôl i Wilfried Bony rwydo ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond penderfynodd y dyfarnwr fod Jordan Ayew wedi gwthio’r amddiffynnwr Nathan Ake o’r ffordd wrth anelu am y cwrt cosbi.

 

Ar ôl y gêm, dywedodd Paul Clement: “Dywedais i wrth y dyfarnwr ar yr hanner ei fod yn benderfyniad twp. Ers hynny, dw i wedi edrych eto ar y fideo ac yn glynnu wrth hynny.

“Roedd Jordan ac Ake yn brwydro am y safle. Fe welais i nhw’n dod ynghyd ac fe gwympodd Ake.

“Dw i’n credu bod Jordan yn rhy gryf iddo fe.

“Ond wedyn ro’n i’n meddwl bod y dyfarnwr wedi cael gêm wael a ddim lan i’r safon.”

Anghytuno

Ond doedd rheolwr Bournemouth, Eddie Howe ddim yn cytuno gyda safbwynt Paul Clement, gan fynnu bod Nathan Ake wedi cael ei wthio.

 

“Ro’n i’n gallu ei weld yn dda ac fe gafodd Nathan ei wthio cyn bod y gôl yn cael ei sgorio.

“Chwythodd y dyfarnwr cyn i’r boi daro’r bêl, sy’n arwydd da ei fod e wedi gwneud penderfyniad amlwg. Roedd hi’n drosedd.”