Aldershot 2–0 Wrecsam                                                                  

Disgynodd Wrecsam o frig Cynghrair Cenedlaethol Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Aldershot yn Stadiwm ESS brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref ddwy waith yn yr hanner cyntaf ac roedd hynny’n fynydd rhy uchel i’r Dreigiau wedi’r egwyl.

Rhoddodd Bernard Mensah Aldershot ar y blaen wedi chwarter awr, yn gwyro croesiad Shamir Fenelon i gefn y rhwyd.

Fenelon ei hun a sgoriodd yr ail ddeunaw munud yn ddiweddarach wedi i ergyd wreiddiol Adam McDonnell daro’r trawst.

Ar ôl codi i frig y tabl nos Fawrth, mae Wrecsam yn dychwelyd i’r ail safle wedi’r golled hon.

.

Aldershot

Tîm: Ward, Alexander (Gallagher 64’), Evans, Rowe, Fowler, Reynolds, Kellerman, McDonnell, Mensah, Fenelon (McClure 86’), Robert (Rendell 69’)

Goliau: Mensah 15’, Fenelon 33’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Smith, Pearson, Rutherford, Carrington, Roberts, Wedgbury, Kelly (Boden 90’), Wright (Massanka 61’), Reid (Mackreth 61’), Holroyd

Cardiau Melyn: Carrington 44’, Kelly 78’

.

Torf: 2,377