Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi galw ar y cefnogwyr i aros tan ar ôl y gêm yn erbyn Bournemouth yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn cyn eu bod nhw’n dangos eu rhwystredigaeth.

Mae’r Elyrch yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl ar ôl colli pedair gêm o’r bron. Maen nhw wedi ennill wyth pwynt yn unig allan o ddeuddeg o gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ac mae sôn bod y cefnogwyr yn bwriadu cynnal protest yn erbyn perchnogion Americanaidd a chadeirydd y clwb, Huw Jenkins.

Bydd angen i’r chwaraewyr aros yn gryf yn feddyliol, yn ôl Paul Clement, sydd wedi gweld rhai ohonyn nhw’n chwalu dan bwysau’n ddiweddar.

“Dw i’n credu ei fod e wedi effeithio rhai o’r chwaraewyr, mae hynny’n arferol. Ond rhaid iddyn nhw ddysgu sut i ymdopi â hynny.

“Rhaid i chi fod yn gryf yn feddyliol mewn cyfnodau anodd pan nad ydych chi’n chwarae’n dda ac yn gwneud camgymeriad a’r dorf yn troi ychydig bach.

“Mae sut maen nhw’n ymdopi â hynny’n rhan bwysig o fod yn gryf yn feddyliol fel chwaraewyr.

“Mae’r chwaraewyr wedi profi hynny. Rhaid iddyn nhw fynd allan a cheisio perfformio’n dda.

“Os yw rhywbeth yn mynd o’i le, rhaid iddyn nhw aros yn hyderus a bod yn ddigon positif i barhau i wneud pethau’n gywir.”

Protest

Wrth i broblemau’r Elyrch barhau oddi ar y cae, mae’r cefnogwyr yn bwriadu cynnal protest ar ddiwedd wythnos pan ymddiswyddodd cadeirydd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, Will Morris.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn berchen ar 20% o’r clwb ac fe ymddiswyddodd yn dilyn “sylwadau diangen, anghyfiawn ac o bosib enllibus” amdano fe.

Ac mae’r cefnogwyr yn parhau i alw ar y cadeirydd Huw Jenkins a’r perchnogion Steve Kaplan a Jason Levien i adael.

Fe fu’r cefnogwyr yn anfodlon ers tro bod yr Americanwyr yn gwneud y penderfyniadau mawr ar frig y clwb – gan gynnwys bod yn gyfrifol am drosglwyddiadau, wrth i Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente adael y clwb.

Dydy’r ddau a ddaeth yn eu lle, Wilfried Bony a Tammy Abraham ddim wedi tanio, ac mae diffyg goliau’n parhau’n un o broblemau mwya’r tîm wrth iddyn nhw frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Targedu’r chwaraewyr

Ond yn ôl Paul Clement, mae’r chwaraewyr yn canolbwyntio’n llwyr ar sicrhau triphwynt o’r gêm ac mae e wedi galw ar i’r cefnogwyr gefnogi’r chwaraewyr doed a ddêl.

“Yr hyn fyddai’n anodd fyddai pe bai pàs anghywir ar ôl deng munud a’u bod nhw’n canolbwyntio ar hynny. Byddai hynny’n anodd i’r chwaraewyr.

“Felly gobeithio y bydd y cefnogwyr yn gallu cadw eu rhwystredigaeth tan yn hwyrach os ydyn nhw wedi gweld perfformiad nad ydyn nhw’n hapus â fe.

“Mae ganddyn nhw bob hawl i ddangos eu rhwystredigaeth. Ond dw i’n gobeithio eu bod nhw hefyd yn dymuno helpu’r tîm.”

Pwysau

Mae Paul Clement dan bwysau erbyn hyn er ei fod e wedi llwyddo i gadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, ac mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Tony Pulis, cyn-reolwr West Brom, olynu’r Sais pe bai’r perchnogion yn penderfynu diswyddo’r prif hyfforddwr presennol.

Cysondeb yw’r gyfrinach i wyrdroi’r dechrau siomedig, meddai Paul Clement, sy’n gobeithio dechrau’r gêm yn erbyn Bournemouth “yn gryf”.

“Dw i’n fwy hyderus [o gael canlyniad da] pe bai’r chwaraewyr yn chwarae’n dda ac yn gyson. Yn amlwg os oes un camgymeriad ar ôl y llall, mae’n fwy anodd.

“Ond gobeithio os oes ambell gamgymeriad yn unig nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar hynny.”

Trosglwyddiadau

Mae gan yr Elyrch wyth gêm cyn bod y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto ddechrau mis Ionawr ac erbyn hynny, byddan nhw wedi chwarae dros hanner eu gemau.

Fe ddaeth yn amlwg erbyn hyn fod angen cryfhau’r garfan bryd hynny fel bod mwy o ddewis ym mhob safle. Un safle lle mae prinder chwaraewyr yw’r cefnwr chwith.

Dim ond Martin Olsson sy’n arbenigo yn y safle hwnnw ar ôl i’r clwb werthu Neil Taylor i Aston Villa fis Ionawr diwethaf a Stephen Kingsley i Hull ym mis Awst.

Ychwanegodd Paul Clement: “Alla i ddim gwneud unrhyw beth tan fis Ionawr. Ry’n ni’n parhau i feddwl, fel arfer, am ein sefyllfa bresennol ni.

“Ond beth sy’n digwydd pe bai [y cefnwr chwith] Martin Olsson yn cael anaf drwg? Gobeithio na fydd e, ond beth pe bai hynny’n digwydd? Rhaid i ni fod yn barod i ymateb.”

Y garfan bresennol

Serch hynny, mae Paul Clement yn hyderus fod gan ei chwaraewyr presennol y gallu i wella’u perfformiadau er nad yw e’n credu bod un ateb syml i’r holl broblemau.

“Pa mor dda allan nhw fod, dw i ddim yn siŵr. Ond maen nhw’n sicr yn well na’r hyn ydyn nhw ar hyn o bryd, fel unigolion ac fel tîm.

“Does dim cyfrinach. Does dim un peth. Os yw’r cefnogwyr yn meddwl, ‘Rhowch Roque Mesa yn y tîm a bydd popeth yn iawn’ yna dyw hynny ddim yn wir.

“Neu ‘Rhowch Wilfried Bony yn y tîm a bydd popeth yn iawn’. Dyw hynny ddim yn wir chwaith. Mae’n fwy cymhleth o lawer, ry’n ni’n ymdrin â llawer o ddarnau bach a llawer o ddeinameg ar y cae ac oddi arno.

“Ry’n ni’n ymdrin â bodau dynol a’r ffaith eu bod nhw’n anwadal. Felly dim ond gwaith caled, canolbwyntio a pharatoi sydd o fewn ein rheolaeth ni.”