Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru yn gobeithio y bydd miloedd o gefnogwyr yn dod i’r gêm ragbrofol yn erbyn Kazakhstan heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe gurodd y Cymry Kazakhstan oddi cartref 1-0 yn barod a chafwyd gêm gyfartal yn erbyn Rwsia fis diwethaf, yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2019.

“Mae pawb yn deall bod hon yn gystadleuaeth hir, ac mae’n bwysig i fynd i lefydd fel Rwsia a chael rhywbeth,” meddai Jayne Ludlow.

“Mae gennym ddwy gêm fawr o’m blaenau ac rydan yn gobeithio bydd pethau’n edrych yn bositif am gemau’r flwyddyn nesaf ar ôl dydd Mawrth.”

Ar ôl chwarae Kazakhstan bydd Cymru yn teithio i Zenica ym Mosnia, y dref lle wnaeth y dynion sicrhau eu lle yn Euro 2016.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig grŵp 1 o flaen Bosnia a Lloegr sy’n cwrdd yn Walsall heno.

Cymru – Kazakhstan – Stadiwm Dinas Caerdydd –  cic gyntaf am saith yr hwyr.

Mae modd gwylio’r gêm trwy bwyso’r botwm coch ar y BBC neu fynd i wefan y BBC.