Mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr Tudful yn gobeithio codi digon o arian yn yr wythnosau nesaf i dalu bil treth o £25,000.

Oherwydd trafferthion ariannol, fe ymddiswyddodd y cadeirydd, Meurig Price, a’r trysorydd John Strand yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r clwb, sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair y De Evo-Stik, wedi torri’r cyllid o 80% oherwydd y trafferthion.

Roedd hynny i’w weld yn glir pan deithion nhw i Chesham ddydd Sadwrn, a gorfod chwarae tîm o’r garfan datblygu. Mi gawson nhw grasfa 13-1.

Bwrdd dros-dro

“Roedd cyfarfod agored wedi’i drefnu ar gyfer nos Lun diwethaf,” meddai’r cefnogwr, Owen Howell, wrth golwg360. “Roedd pawb yn bositif ac yn hapus i gyfrannu mewn bwrdd interim.

“Roedd etholiadau’r bwrdd i fod yn Ionawr, ond rydyn wedi penderfynu dod â nhw’n ymlaen cyn gynted â phosib, gyda’r broses i’w chwblhau cyn y Nadolig, gobeithio.

“Mae cefnogwyr nifer o glybiau wedi bod yn garedig,” meddai Owen Howell wedyn. “Mae’r actor o Bort Talbot, Michael Sheen, a phêl-droediwr Glasgow Rangers a Chymru, Declan John, sy’n hanu o Ferthyr, wedi cyfrannu.

“Rydyn ni wedi trefnu diwrnod ‘Paciwch y Parc’ ar gyfer gêm dydd Sadwrn yn erbyn Dorchester. Rydyn ni’n gobeithio am dorf o tua mil o bobol, ac y bydd bob dim wedi’i setlo’n fuan er mwyn i ni gael paratoi ar gyfer y dyfodol.”

Mae rheolwr Merthyr, Gavin Williams, wedi cadarnhau bod o leiaf saith chwaraewr o’r tîm cyntaf ar gael ar gyfer gêm dydd Sadwrn (Tachwedd 25).