Casnewydd 1–2 Barnet                                                                    

Ildiodd Casnewydd ddwy gôl hwyr wrth golli gartref yn erbyn Barnet ar Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy waith yn y tri munud olaf i gipio’r tri phwynt yn ne Cymru.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth Casnewydd ar y blaen yn haeddiannol ddeunaw munud o’r diwedd pan rwydodd Ben White.

Roedd Barnet yn gyfartal serch hynny ddau funud o ddiwedd y naw deg pan beniodd John Akinde o groesiad Jamal Campbell-Ryce.

Croesiad arall gan Campbell-Ryce a arweinodd at gôl fuddugol yr ymwelwyr ddau funud yn ddiweddarach hefyd, Shaquile Coulthirst y sgoriwr y tro hwn.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn ddegfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien (McCoulsky 90+3’), Demetriou, White, Pipe (Butler 42’), Dolan, Bennett, Tozer, Willmott (Labadie 58’), Nouble, Amond

Gôl: White 73’

Cardiau Melyn: Amond 45’, Butler 54’, O’Brien 70’, Nouble 86’

.

Barnet

Tîm: Stephens, Clough, Nelson (Taylor 84’), Almeida Santos, Tutonda (Nicholls 68’), Watson, Taylor, Sweeney (Campbell-Ryce 45’), Vihete, Akinde, Coulthirst

Goliau: Akinde 88’, Coulthirst 90’

Cerdy Melyn: Almeida Santos 44’

.

Torf: 2,275