Barnsley 0–1 Caerdydd
Cododd Caerdydd i’r ail safle yn nhabl y Bencmpwriaeth gyda buddugoliaeth dros Barnsley yn Oakwell nos Fawrth.
Roedd gôl hwyr Callum Paterson yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Adar Gleision.
Barnsley a gafodd y gorau o hanner cyntaf di sgôr ond roedd yr ymwelwyr o Gymru’n well wedi’r egwyl ac fe ddaeth Junior Hoilett yn agos at agor y sgorio.
Fe ddaeth unig gôl y gêm saith munud o ddiwedd y naw deg pan rwydodd Paterson wedi i’r tîm cartref fethu a chlirio cic gornel.
Mae’r canlyniad, ynghyd â cholled gartref Sheffield Utd yn erbyn Fulham, yn codi’r Adar Gleision i’r ail safle yn y tabl, bwynt y tu ôl i Wolves ar y brig.
.
Barnsley
Tîm: Davies, Yiadom, Pearson, Lindsay, Fryers, Gardner, Hammill, Potts, McGeechan (Moncur 74’), Hedges (Barnes 64’), Thiam (Bradshaw 64’)
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Gunnarsson (Damour 74’), Ralls, Hoilett, Bryson, Ward (Gounongbe 82’)
Gôl: Paterson 83’
Cardiau Melyn: Ralls 79’, Bamba 90+1’
.
Torf: 11,051