Mae dau enw yn hollti barn y cefnogwyr, sef Ryan Giggs a Tony Pulis…

Ers  i Chris Coleman ymddiswyddo o’i swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru a chael ei benodi fel rheolwr Sunderland ddydd Sul, mae’r dyfalu a’r dadlau wedi dechrau am bwy fydd yn ei olynu.

Mae nifer o enwau yn cael eu crybwyll yn cynnwys Ryan Giggs, Tony Pulis, Thierry Henry, Craig Bellamy, Carl Robinson a Mark Hughes.

Mae dau enw yn hollti barn y cefnogwyr, sef Ryan Giggs a chyn-reolwr West Bromwich Albion Tony Pulis – a gafodd ei ddiswyddo ddydd Llun –  ond yn ôl cyn-chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips, Giggs fyddai ei ddewis o.

“Potensial”

“Roedd be wnaeth Chris Coleman gyflawni yn syfrdanol. Mae’n rhaid cofio roedd nifer  o gefnogwyr ddim yn hoff o’i apwyntiad o’r dechrau, ac mi gymerodd dipyn o gemau i’w ennill nhw drosodd.  Roedd yr haf yn Ffrainc 2016 yn fythgofiadwy, mi wnaethom yn well na’r disgwyl ac uno’r wlad. Dwi’n bersonol yn gweld dim bai ar Coleman yn mynd  i Sunderland, maen nhw’n glwb da, ond mewn trafferth, mae’n her – doedd Everton, Crystal Palace na Chaerlŷr wedi edrych arno, felly roedd yn ddewis hawdd iddo.

“O ran Giggs, mae’n rhaid cofio bod Syr Alex Ferguson a phersonoliaeth gref. Pe bai Syr Alex yn deud rhywbeth oedd rhaid gwrando. Mae Giggs wedi gweithio o dan Ferguson a Van Gall, ac o bosib wedi dysgu llawer ganddyn nhw. Y canlyniadau sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd, a phe bai Giggs yn rheolwr a Chymru a neud yn dda, buan iawn sa’r cefnogwyr yn hapus â fo. Hefyd mae beth wnaeth Cymru gyflawni yn Ffrainc yn anferth, mae’n bosib nawn ni ddim gweld hynna eto am gyfnod hir iawn, mae gwledydd fel Bosnia yn dimau da a chafodd tîm o dan-21 Cymru grasfa ganddyn nhw yn ddiweddar,  ond gyda’r potensial sydd gennym, mae’n swydd dda i rywun.”

“Sylfaen cadarn”

Un sydd ddim o blaid Ryan Giggs ydy’r cefnogwr brwd, Dafydd Llywelyn, Llandysul.

“Fe lwyddodd Coleman i adeiladu ar y sylfaen cadarn a ddechreuodd o dan Speed drwy sicrhau bod gweledigaeth glir a strategaeth gyson yn y dull o chwarae ond yn fwy pwysig yn yr ymroddiad. Fe lwyddodd fel pob arweinydd da i feithrin hyder a chydweithio arbennig a dalodd ar ei ganfed wrth i’r tîm perfformio i’w llawn botensial. Dyma garfan gryfaf Cymru ers degawdau ond roedd dal rhaid cael dull o chwarae a thactegau clir yn ogystal ag adeiladu diwylliant arbennig a ddatblygodd yn fwy na charfan pêl-droed yn unig. Roedd y diwylliant a’r hyder yn treiddio allan i’r cefnogwyr ac fe deimlais hyn yn bersonol. Teimlaf fod gwaith arbennig Osian Roberts a Ian Gwyn-Hughes i enwi ond rhai wedi bod yn rhan fawr o’r daith.

“ O ran olynydd dwi yn bersonol ddim wedi fy nghlymu i’r syniad bod rhaid cael Cymro a base unrhyw un a’r sgiliau i wneud y mwyaf o’r chwaraewyr ifanc yn cael fy mhleidlais i. Efallai bod angen newid tactegol wrth i rai o’r chwaraewyr agosáu at ymddeoliad rhyngwladol ac o weld y garfan yn erbyn Paraguay mae yna botensial i Gymru chwarae yn fwy ymosodol.

“Mae nifer yn enwi Giggs a dwi ddim yn amau ei sgiliau pêl droed ond baswn yn cwestiynu ei record rheoli. Mae Pulis i fi yn rhy negyddol yn dactegol a ddim yn medru ar y sgiliau mwy meddal diwylliannol sydd angen. Enw arall dwi wedi clywed yw Carl Robinson sydd allan yng Nghanada a bydda roi cyfle i Gymro ifanc yn ddeniadol iawn er dyw e ddim yn enw mawr.”

“Cymwys”

Mae’r cefnogwr, Garmon Ceiro, o Dole ger Bow Street o’r farn mai Carl Robinson yw’r dyn i lenwi esgidiau Chris Coleman.

“I ddechrau, dw i ddim wir yn meddwl bod ’na dramorwr sydd werth ei gwrso – wel, ddim un allwn ni fforddio ta beth. Dyw  Lars Lagerback ddim yn mynd i adael Norwy ar ôl blwyddyn i ddod aton ni. Ta beth, am wlad fach, mae ’da ddewisiadau eithaf da – mae ’na bedwar prif enw:  Ryan Giggs, Craig Bellamy,Tony Pulis a Carl Robinson. Mae hyn rhy gynnar i Bellamy, a dwi ddim yn siŵr bod ‘da fe’r bersonoliaeth sydd ei angen i fod yn rheolwr ta beth, a bod yn onest. Yw e wir yn mynd i allu tynnu carfan ynghyd? Y gwrthwyneb oedd e’n ei wneud fel chwaraewr.

“Buodd ’na gryn drafod am Giggs ar y cyfryngau cymdeithasol ers cyhoeddiad Coleman, gyda llawer o gefnogwyr yn diawlo fe. Ro’dd hyn i’w ddisgwyl – o’n i’n ymwybodol o’r drwgdeimlad, ond o’n i jyst ddim yn disgwyl iddo fe fod cweit mor chwyrn. Nagodd, do’dd Giggsy ddim yn chwarae gemau cyfeillgar inni. Ond mae bron pawb erbyn hyn yn cytuno bod gemau cyfeillgar yn dipyn o wastraff amser: i’r graddau bod Cymru’n osgoi eu chwarae nhw gymaint â phosib, a bod FIFA’n aildrefnu’r calendr i gael gwared arnyn nhw. A bod yn hollol onest, a fynta â llinynnau gar bregus, dwi’n dueddol o feddwl bod e di neud y peth iawn! Ta waeth, oherwydd hynny, yn ogystal â’r busnes Tîm GB ac, wrth gwrs, ei fywyd personol… Anhrefnus, mae Giggs tua mor boblogaidd ymysg cefnogwyr Cymru â mwd mewn eisteddfod.

“O ran y lleill, Pulis yw’r mwyaf cymwys o bell ffordd – a falle wir fydda ddiddordeb ‘da fe nawr bod e di gadael West Brom heddiw. Ond, yn bersonol, dwi’n gofyn: ydan ni wir eisiau rhywun sydd newydd gael ei bwio allan o West Brom? Ni newydd ddiawlo Iwerddon am chwarae’n negyddol yn ein herbyn – ai dyna ydan ni moyn neud o hyn allan? Dwi’n meddwl bod gormod o dalent yn y garfan i benodi boi sydd eisiau chwarae pêl-droed fel Pulis.

“Er mod i’n achub cam Giggs uchod, nid fe dwi moyn chwaith. Carl Robinson fyddai fy newis i, a hynny gan y bydda fe’n cynrychioli rhyw fath o barhad oherwydd ei gysylltiad ag Osian Roberts. Ychydig iawn bydd y cefnogwyr yn gwybod am sut mae ei dîm Vancouver Whitecaps yn chwarae, felly bydd y penodiad yn rhywfaint o risg. Ond wedyn; job dd’wetha Coleman cyn Cymru oedd Larrissa… A weithiodd hynna’n eithaf da inni yndo?”