Mae Chris Coleman wedi mynnu nad oes drwg deimlad rhyngddo ef a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), wrth iddo ildio’r awenau yn rheolwr tros y tîm cenedlaethol.

Penderfynodd peidio ag adnewyddu ei gytundeb â Chymru’r wythnos ddiwethaf, a bellach mae wedi dod i’r amlwg mai ef yw rheolwr newydd clwb pêl-droed Sunderland.

Dydy’r rheolwr ddim am “wneud mor a mynydd” o’r anghydfod rhyngddo ef a’r FAW, ac mae wedi dweud ei fod am adael ar nodyn positif.

“Atgofion gwych”

“Roedd gan [yr FAW] safbwynt gwahanol i mi,” meddai. “Siaradais â phrif weithredwr Cymru – roedd ganddo safbwynt gwahanol. Felly dyna oedd diwedd yr holl beth i mi.

“Ond, dw i ddim yn mynd i wneud mor a mynydd o hynna. Mae gen i atgofion gwych. Dw i’n Gymro hynod o falch, ac mae gen i’r dymuniadau gorau i’r tîm.

“Dw i’n meddwl y byd o’r chwaraewyr, staff a’r cefnogwyr – y Mur Coch. Dw i methu gofyn am ragor wrthyn nhw, felly dw i ddim yn mynd i orffen ar nodyn negatif.”