Wrecsam 2–0 Ebbsfleet                                                                   

Mae Wrecsam yn ail yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl curo Ebbsfleet ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Chris Holroyd unwaith ym mhob hanner wrth i’r Dreigiau ennill yn gymharol gyfforddus.

Rhoddodd Holroyd ei dîm ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr wrth i’w ergyd flêr dwyllo Nathan Ashmore yn y gôl.

Dyblodd y blaenwr y fantais o’r smotyn chwarter awr o ddiwedd y gêm ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar wahaniaeth goliau, bwynt yn unig y tu ôl i Dover ar y brig.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Smith, Pearson, Carrington, Holroyd, Wedgbury, Reid (Massanka 71’), Rutherford, Kelly (Mackreth 80’), Roberts, Wright

Goliau: Holroyd 28’, [c.o.s.] 74’

.

Ebbsfleet

Tîm: Ashmore, Connors, Rance, Weston, Drury, Clark, Kedwell, Coulson, Magri, Mambo (Bush 39’), Cook (Bubb 64’ (Shields 83’))

Cerdyn Melyn: Bush 53’

.

Torf: 4,150