Accrington Stanley 1–1 Casnewydd                                            

Bu rhaid i Gasnewydd fodloni ar gêm gyfartal yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn wedi i Accrington gipio pwynt gyda gôl hwyr yn Stadiwm Wham.

Rhoddodd Frank Nouble yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond achubodd Malik Wilks gêm gyfartal i’r tîm cartref ym munudau olaf y gêm.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe roddodd Nouble yr Alltudion ar y blaen wedi dim ond tri munud o’r ail hanner.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd wedi hynny ond gyda Joe Day yn gwneud sawl arbediad da, roedd hi’n ymddangos fod Casnewydd am ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Ond nid felly y bu wrth i’r eilydd, Wilks, fanteisio ar smonach yn y cwrt cosbi i unioni’r sgôr ddau funud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r pwynt, sydd yn un digon parchus yn erbyn tîm a ddechreuodd y dydd yn ail yr Ail Adran, yn codi Casnewydd i’r nawfed safle yn y tabl.

.

Accrington Stanley

Tîm: Chapman, Donacien, Richards-Everton, Hughes, Thorniley (Wilks 79’), Clark (Leacock-McLeod 69’), Brown, Johnson,  McConville, Kee, Jackson

Gôl: Wilks 88’

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien (Owen-Evans 90+1’), Demetriou, Pipe, Willmott, Bennett, Tozer, Butler, Amond (Rigg 74’), Nouble (Jackson 87’)

Gôl: Bouble 48’

Cerdyn Melyn: Tozer 90’

.

Torf: 1,371