Burnley 2–0 Abertawe                                                                     

Parhau a wnaeth tymor siomedig Abertawe wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn Burnley ar Turf Moor brynhawn Sadwrn.

Mae’r Elyrch yn aros yn ail o waelod Uwch Gynghrair Lloegr wedi i Burnley rwydo ddwy waith mewn cyfnod o ddeuddeg munud yn yr hanner cyntaf.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gydag ychydig llai na hanner awr ar y cloc pan sgoriodd Jack Cork o bawb, y chwaraewr a werthwyd gan Abertawe ym mis Gorffennaf yn penio’n gywir o groesiad Ashley Barnes.

Barnes ei hun a sgoriodd ail Burnley bum munud cyn yr egwyl gydag ergyd dda o bum llath ar hugain.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn well yn yr ail hanner ond prin iawn a oedd cyfleoedd clir o flaen gôl wrth i Burnley ddal eu gafael ar y tri phwynt yn gymharol gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Paul Clement yn bedwerydd ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair wedi deuddeg gêm.

.

Burnley

Tîm: Pope, Lowton, Tarkowski, Mee, Ward, Berg Gudmundsson, Defour, Cork, Brady, Hendrick (Vokes 80’), Barnes

Goliau: Cork 29’, Barnes 40’

Cerdyn Melyn: Ward 17’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughtom, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer (Ki Sung-yueng 70’), Renato Sanchez, Clucas, Dyer, Abraham (Narsingh 82’), Ayew (Bony 45’)

Cerdyn Melyn: Dyer 90+7’

.

Torf: 18,895