Mae chwaraewr canol cae Cymru, David Edwards wedi galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod pwysigrwydd y rheolwr Chris Coleman i lwyddiant parhaus y tîm cenedlaethol.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd y rheolwr 47 oed yn parhau yn ei swydd, ac mae’n bosib ei fod e wedi llywio’r tîm am y tro olaf ar ôl y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Panama yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.

Mae lle i gredu bod trafodaethau’n parhau ynghylch cytundebau ei staff cynorthwyol, a bod hynny’n dylanwadu’n drwm ar ei benderfyniad pa un a fydd yn parhau ai peidio.

“Dw i’n credu ei fod e eisiau aros ond yn amlwg, mae angen sortio pethau uwch ein pennau ni,” meddai David Edwards.

“Gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n gweld ei bwysigrwydd ac yn gwneud iddo ddigwydd, oherwydd mae e’n rhan enfawr o’r hyn sy’n digwydd ym mhêl-droed Cymru.

“Mae e’n credu go iawn y gall y tîm hwn fynd ymlaen i’r lefel nesaf a gyda fe wrth y llyw, fe allwn ni yn sicr.”

‘Gwerthfawrogi’

Ychwanegodd fod “pob un chwaraewr” eisiau i Chris Coleman barhau yn ei swydd.

“Ry’n ni wir yn gwerthfawrogi’r hyn mae e wedi’i wneud dros y wlad hon, yn enwedig ar ôl cymryd drosodd dan amgylchiadau anodd iawn [marwolaeth Gary Speed] a chael 18 mis mor anodd i ddechrau.

“Wrth gwrs, ry’n ni’n siomedig iawn nad ydyn ni’n mynd i Gwpan y Byd.

“Ond dw i’n dal i gredu bod rhagor i ddod gyda fe wrth y llyw.”

Canmol y to iau

Yn ystod cyfnod Chris Coleman wrth y llyw, mae Cymru wedi datblygu sgiliau chwaraewyr ifainc fel Ben Woodburn ac Ethan Ampadu.

Ymddangosodd Ampadu, 17, yng nghrys Cymru am y tro cyntaf neithiwr, gan greu argraff yn yr amddiffyn.

Dywedodd David Edwards: “Mae Ethan o’r radd flaenaf ac yn aeddfed iawn o ystyried ei oedran.

“Ro’n i’n disgwyl gorfod ei hyfforddi fe drwy siarad â fe yn ystod y gêm, ond mae e’n llafar iawn. Mae e fel rhywun 25 oed, nid 17.

“Mae e’n mynd i fod yn chwaraewr enfawr i ni yn yr ymgyrch nesaf gorau oll po fwyaf o funudau rowch chi iddo fe nawr.

“Dw i’n gweld e’n dechrau’r ymgyrch nesaf oherwydd mae e’n mynd i flodeuo a dod yn seren. Dyna pa mor dda yw e.”