Mae dyfodol rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, yn dal i fod yn ansicr.

Â’i gytundeb yn dod i ben ddiwedd y mis hwn, roedd sôn mai’r gêm nos Fawrth (Tachwedd 14) yn erbyn Panama fyddai’r gêm olaf gydag ef wrth y llyw.

Mae disgwyl i drafodaethau barhau’r wythnos hon, wrth i’r rheolwr a Chymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW) geisio taro dêl newydd.

“Dw i wir ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd,” meddai Chris Coleman. “Dw i ddim yn siŵr os mai honna oedd fy ngêm olaf ai peidio.

“Mae fy sefyllfa yn un gyhoeddus, felly dw i’n gobeithio daw penderfyniad yn fuan. Dw i’n credu mai fi yw’r dyn i’w harwain. Ond, mae ychydig mwy i’r sefyllfa na hynna.”

Cymru v Panama

 hithau’n gêm gyfeillgar, fe sicrhaodd y rheolwr neithiwr fod nifer o wynebau ifanc a newydd ar y cae; gyda’r triawd ifanc Ben Woodburn, Ethan Ampadu a David Brooks yn dechrau.

Gêm dawel oedd hi yng Nghaerdydd – ac eithrio cic gosb siomedig gan Sam Vokes – nes i Tom Lawrence sgorio gôl hwyr ar y 75ain munud.

Ond, â thîm Cymru yn paratoi i ddathlu buddugoliaeth gartref, llwyddodd Armando Cooper a sgorio gôl i Panama ym munudau olaf y gêm gan ddod â’r sgôr derfynol i 1-1.