Mae’r chwaraewr fydd yn arwain tîm pêl-droed Cymru mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth, wedi dweud bod llenwi’r rôl yn “dipyn o beth”.

Chris Gunter fydd yn capteinio, wrth i dîm Cymru wynebu Panama yng Nghaerdydd nos yfory (Tachwedd 14).

Dyma fydd ei 85fed cap i Gymru, sef y nifer cydradd uchaf i chwaraewr tîm Cymru tu allan i’r gôl – llwyddodd Gary Speed i ennill yr un nifer.

“Mae bod yn gapten yn dipyn o beth,” meddai Chris Gunter. “Mae bod yn gapten i’ch gwlad yn rhywbeth i’w werthfawrogi.”

“Ac mae bod ar yr un lefel â rhywun o statws Gary ym myd pêl-droed Cymru yn anrhydedd mawr. I gyrraedd y rhif yna – mae cyrraedd ei record yn beth eithaf arbennig.”

Mae’r chwaraewr hefyd wedi erfyn ar Reolwr Cymru, Chris Coleman, i barhau â’i swydd yn dilyn y gêm gan nodi: “Byddai gadael iddo fynd yn gwneud dim synnwyr.”