Mae Cymru yn teithio i Ffrainc nos Wener i wynebu tîm Didier Deschamps yn y Stade De France.

Fe chwaraeodd Cymru chwe gêm yn Ffrainc yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016, ond y tro diwethaf i ni wynebu Ffrainc eu hun oedd yn Toulouse yn 1982. Bryd hynny, fe enillodd Cymru o gôl i ddim, gyda Ian Rush yn sgorio’r gôl fuddugol.

Roedd Ffrainc yn paratoi am Gwpan y Byd 1982 yn Sbaen, ac roedd y golled yn ergyd fawr iddyn nhw, o gofio bod neb llai na Michel Platini, Jean Tigana, Patrick Battiston, Marius Tresor, Alain Giresse a Didier Six yn y tim.

Cant yn teithio 

Roedd tua chant o gefnogwyr wedi teithio drosodd i Baris yn 1982, ac yn eu mysg roedd Steve Comins o Jersey Marine ger Abertawe.

“Ro’n i’n byw yn Watford ar y pryd ac wedi bod yn Prâg, prifddinas yr hen Tsiecoslofacia, ym mis Medi 1981 yn gwylio Cymru mewn gêm ragbrofol,” meddai wrth golwg360.

“Ro’n i, fel pawb sy’n dechrau gwylio Cymru, wedi cael blas. Mi deithiais i Toulouse gyda thrên, roedd yn siwrne hir, mae cymaint o flynyddoedd yn ôl dw i ddim yn cofio llawer am  y gêm… ond pan enillodd Ffrainc Gwpan y Byd 1982 fe wnaeth arwyddocâd y canlyniad fy nharo i.

“Ro’n i wedi gwylio fy ngwlad yn curo un o dimau gorau’r byd ar eu tomen eu hunain.

“Roedd yn wych cael mynd yn ôl  i Toulouse yn yr Ewros a gwylio Cymru yn cael buddugoliaeth wych arall yn y ddinas yn erbyn Rwsia, mae Toulouse yn dipyn o ddinas,” meddai wedyn.

Mae Steve Comins yn bwriadu bod yn un o’r 2,200 o gefnogwyr Cymru sy’n heidio i Baris ar gyfer y gêm nos Wener.

Ffrainc eto

“Bydd yn wych i fynd yn ôl i Ffrainc eto,” meddai. “Rwy’n gobeithio y caiff Ben Woodburn ac Ethan Ampadu gêm lawn.

“Mae Ffrainc yn dipyn o dîm, ond gobeithio y byddwn ni’n achosi sioc, ac y ca’ i fynd adref yn hapus ar ôl taith arall lwyddiannus yn Ffrainc.”

Mae Ffrainc wedi gorffen ar dop eu grŵp yn y rowndiau rhagbrofol, yn ennill saith o’u gemau a cholli dim ond un.