Caer 0–1 Wrecsam                                                                             

Cododd Wrecsam i’r ail safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Gaer yn Stadiwm Diva nos Fercher.

Roedd gôl hanner cyntaf Shaun Pearson yn ddigon i gipio’r tri phywnt i’r Dreigiau yn y darbi yn Stadiwm Diva.

Daeth y gôl bwysig ddau funud cyn yr egwyl pan beniodd Shaun Pearson gic rydd hir Marcus Kelly heibio i’r golwr o Fôn rhwng y pyst i Gaer, Alex Lynch.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam dros Macclesfield i’r ail safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol a gwahaniaeth golaiu’n unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Dover ar y brig.

.

Caer

Tîm: Lynch, Halls, Rowe-Turner, Dawson, Astles, James (Zanzala 89’), Hannah, Akintunde (White 82’), Hall-Johnson (Turnbull 31’), Archer, Gough

Cerdyn Melyn: Archer 16’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jenning (Carrington 54’), Smith, Holroyd, Wedgbury, Pearson, Massanka (Boden 67’), Rutherford, Kelly (Mackreth 74’), Roberts, Wright

Gôl: Pearson 43’

Cardiau Melyn: Wedgbury 49’, Pearson 90’

.

Torf: 4,079