Mae Wrecsam yn teithio i Loegr heno i wynebu’r gelyn – Caer – a bydd eu cefnogwyr yn cael teithio i’r gêm heb unrhyw rwystr ers 2013.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Cheshire wedi gorfodi cefnogwyr y ddau glwb i deithio i’r gemau yn y gorffennol gyda chyfyngiadau arnyn nhw, Y term oedd yn cael ei ddefnyddio oedd ‘Bubble match’.

Roedd cefnogwyr yn gorfod mynd  i Wrecsam a theithio ar fysus swyddogol i’r gêm ac yn ôl, a’r un fath yn wir am gefnogwyr Caer hefyd.

Mae’r cefnogwyr wrth eu boddau â’r penderfyniad ac mae’r gohebydd, Bryn Law. yn edrych ymlaen…

Hapus 

“Mae’r gêm bybyl wedi gorffen, felly dw i’n hapus i fynd i’r g͏êm,” meddai Bryn Law wrth golwg360.

“Gobeithio y cawn dri phwynt yn erbyn yr hen gelyn, mae’n bwysig i ni aros yn y râs am ddyrchafiad, ond yn fwy na dim, dw i’n gobeithio na fydd problemau ar y noson.

“Mi fasa’r heddlu yn fwy na hapus i weld y gêm bybyl yn dod yn ol.”

Y garfan

O ran y chwaraewyr, mae Leo Smith yn gobeithio bod yn rhan o’r garfan ar y noson.

“Rydan ni’n mynd yno i ennill, does dim pwynt meddwl am yr achlysur,” meddai Leo Smith wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar be’ ydan ni’n gallu’i neud. Pe baen ni’n chwarae ein gêm ni’n iawn, mi ddylian ni fod yn rhy gryf iddyn nhw ar y noson.

“Doedd gynnon ni ddim gêm dros y penwythnos oherwydd Cwpan FA Lloegr, ac mae wedi rhoi amser ychwanegol i ni baratoi. Rydan ni wedi bod yn gweithio ar nifer o systemau gwahanol…”

Pe bai Wrecsam yn ennill byddan yn lefel â Dover sydd ar frig y tabl, ac mae’r gêm honno yn fyw ar BT Sports.