Abertawe 0–1 Brighton                                                                     

Parhau y mae dechrau siomedig Abertawe i’r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddynt golli gartref yn erbyn Brighton & Hove Albion brynhawn Sadwrn.

Roedd un gôl yn ddigon i’r Gwylanod wrth i’r Elyrch roi perfformiad siomedig arall i selogion y Liberty.

Ychydig llai na hanner awr a oedd ar y cloc pan aeth yr ymwelyr ar y blaen, chwipiodd Anthony Knockaert groesiad da i’r canol ac er nad oedd hi’n ergyd lân gan Glenn Murray fe wnaeth y blaenwr ddigon i guro Lukasz Fabianski.

Roedd yr Elyrch yn wael wedi hynny ac nid oeddynt yn edrych fel sgorio mewn gwirionedd.

Cafodd Luciano Narsingh gyfle euraidd i gipio pwynt i’r tîm cartref serch hynny yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe’n ddeunawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Clucas (Routledge 79’), Fer, Ki Sung-yueng, Carroll (Narsingh 59’), Dyer, Abraham, Ayew (McBurnie 79’)

Cardiau Melyn: Fernandez 29’, Clucas 66’

.

Brighton

Tîm: Ryan, Bruno, Duffy, Dunk, Bong, Knockaert, Stephens, Propper, Izquierdo Mena (March 66’), Groß (Brown 85’), Murray (Hemed 79’)

Gôl: Murray 29’

Cerdyn Melyn: Dunk 33’

.

Torf: 20,822