Bristol City 2–1 Caerdydd                                                     

Bristol City aeth â hi yn y gêm ddarbi rhyngddynt a Chaerdydd yn Ashton Gate amser cinio ddydd Sadwrn.

Pwynt yn unig sydd yn gwahanu’r ddau dîm tua brig y Bencampwriaeth bellach wedi i’r tîm cartref drechu deg dyn yr Adar Gleision ym Mryste.

Ugain munud a oedd ar y cloc pan grymanodd Callum O’Dowda Bristol City ar y blaen.

Roedd Caerdydd yn gyfartal bedwar munud cyn yr egwyl serch hynny diolch i gôl Omar Cogle yn dilyn gwaith ceu Junior Hoilett.

Trodd arwr hanner cyntaf Caerdydd yn ddihiryn wedi deg munud o’r ail hanner, Bogle yn cael ei anfon oddi ar y cae am dacl hwyr ar Marlon Pack.

Buan iawn y manteisiodd y Saeson ar eu un dyn o fantais wrth i Aden Flint eu penio ar y blaen o groesiad Hordur Bjorgvin Magnusson.

Cafodd Danny Ward gyfle i unioni i ddeg dyn Caerdydd ond peniodd groesiad Callum Paterson heibio’r postyn.

Mae Caerdydd yn llithro i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth Sheffield United dros Hull.

.

Bristol City

Tîm: Fielding, Smith, Flint, Baker, Magnusson, O’Dowda, Brownhill, Pack (Taylor 67’) Bryan, Djuric, Reid (Woodrow 82’)

Goliau: O’Dowda 20’, Flint 66’

Cardiau Melyn: Pack 31’, Bryan 51’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Paterson, Bryson (Tomlin 84’), Ralls, Peltier, Mendez-Laing (Feeney 7’ (Ward 57’)), Hoilett, Bogle

Gôl: Bogle 41’

Cardiau Melyn: Peltier 4’, Bryson 57’

Cerdyn Coch: Bogle 55’

.

Torf: 21,692