Mae  sawl gornest ddiddorol yn ail rownd Cwpan Cymru yfory, ac o bosib y bydd sioc yn y gêm rhwng Gresffordd a  Chonwy.

Mae Gresffordd yn ddeuddegfed yng nghynghrair y  Cymru Alliance, a Chonwy yn chwarae mewn cynghrair yn is ond yn gobeithio am ddyrchafiad y tymor hwn.

Nôl yn 1992 roedd Conwy yn un o aelodau gwreiddiol Uwch Gynghrair Cymru. Mi orffennon nhw yn drydydd yn nhymor 1995/96 gyda  Ken Mckenna yn rhwydo 49 o weithiau a thorri record sgorio’r  clwb ar y pryd.

Conwy

Y dyn sydd â’r gyda’r dasg o gael Conwy nôl yn y Cymru Alliance yw’r rheolwr profiadol Gareth Thomas, a gafodd gyfnod gwych gyda Dinbych yn ddiweddar gan eu harwain nhw i rownd derfynol Cwpan Word a’r trydydd safle yn y Cyrmu Alliance yn nhymor 2015/16.

Mae cyn-amddiffynnwr Bangor , Porthmadog a Glantraeth, Iolo Hughes yn chwarae i Gonwy, ac mae’r rheolwr a’r hyfforddwr Alan Winstanley wedi creu argraff arno.

“Roeddwn heb glwb ar ôl i Lantraeth benderfynu ymddiswyddo o’u gynghrair. Gwnaeth Gareth fy ffonio ac aeth allan o’i ffordd i gwrdd â phawb yn wyneb i wyneb,” meddai Iolo Hughes wrth golwg360.

“Roedd hyn yn arwydd da ei fod yn rheolwr sy’n gwneud y pethe iawn..

“Rydan ni yn targedu’r gynghrair a phob cwpan, dyna be mae’r rheolwr yn pwysleisio, trin bob gêm fel ffeinal. Bydd yn gêm galed ddydd Sadwrn, maen nhw’n dîm cryf ac yn dal eu tir yn y gynghrair, ond byddan ni yn mynd yna yn hyderus a heb ofn. Mae’r pwysau arnyn nhw.”

Bydd clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ymuno yn y drydedd rownd.

Gemau’r ail rownd

Airbus UK Broughton v Saltney

Rhydaman v Llantwit Major

Brickfield Rangers v Rhuthun

Bwcle v Llandudno Albion

Caernarfon v Berriew

Caerffili Athletic v Penrhyncoch

Caersws v Llanrhaedr Ym Mochnant

Cwmamman United v Bridgend Street

Cwmbrân Celtic v Llanelli

Goytre FC v Briton Ferry Llansawel

Gresffordd Athletic v Conwy

Hwlffordd v Aberbargoed Buds

Treffynnon v Cegidfa

Llay Welfare v Y Fflint

Cyffordd Llandudno v Dinbych

Pencoed Athletic v Pontypridd

Penybont v Trefynwy

Penydarren BGC v STM Sports

Porthmadog v FC Penley

Ton Pentre v Panteg