Mae’r rheolwr pêl-droed, Jose Mourinho, wedi datgan bod achos llys yn ei erbyn dros dwyll trethi “wedi dod i ben”.

Yn ôl erlynyddion o Sbaen, methodd Jose Mourinho â thalu gwerth £2.9 miliwn o drethi rhwng 2011 a 2012 – cyfnod pan oedd yn hyfforddi clwb Real Madrid.

“Dywedon nhw wrtha’i bod ymchwiliad wedi’i agor, a bod yn rhaid i mi dalu swm penodol o arian er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa,” meddai wrth adael llys yn Madrid.

“Wnes i ddim cwyno nag apelio. Talais ac arwyddais gytundeb a deddf cydymffurfiad sydd yn nodi fod y sefyllfa wedi dod i ben.”

Ffigyrau a ffigurau

Mae’r achos yn gysylltiedig ag anghydfod dros incwm cafodd eu hennill trwy ddefnydd delweddau, nid cyflog y rheolwr pan oedd yn gweithio i Real Madrid.

Dyma’r achos diweddaraf o awdurdodau Sbaen yn targedu ffigyrau o fyd pêl-droed. Cafwyd y pêl-droediwr, Lionel Messi, yn euog y llynedd o droseddau trethi.