Mae’r Seintiau Newydd ar frig yr Uwch Gynghrair unwaith eto, ond mae un tîm o ardal Wrecsam yn creu dipyn o argraff ar ôl cael dechrau gwych i’r tymor.

Mae Derwyddon Cefn yn cael ei adnabod fel un o’r clybiau hynaf yng Nghymru, ac maen nhw’n teithio i Goedlan  y Parc  heno i wynebu Aberystwyth, sydd ar ôl dechrau gwael i’r tymor yn wellau o dan reolaeth Neville Powell.

Mae Ilan Ap Gareth, 18,  o’r Bala wrth ei fodd i fod yn rhan o’r clwb.

“Rydan ni’n bedwerydd ar hyn o bryd, ond mae Huw Griffiths, y rheolwr yn wastad yn pwysleisio mai aros yn y gynghrair lw’r nod.” meddai Ilan Ap Gareth wrth golwg360

“Rydan ni wedi cael dechrau da, ac os y  byddwn ni’n dal yn y chwech uchaf pan ddaw’r  toriad byddan wrth ein boddau. Bydd gêm heno yn un anodd, mae Aber wedi dechrau troi’r gornel, ond rydan i raddau yn chwarae’n well oddi gartref, fel dangoswyd wythnos diwethaf yn curo Bangor – rydan wedi ennill ein tair gêm ddiwethaf.”

Treuliodd Ilan tymor diwethaf gyda Chaer, chwaraeodd i’r tîm ieuenctid sawl gwaith ac ymarfer gyda’r tîm gyntaf, roedd siom diwedd y tymor pan gafodd ei ryddhau , ac ymunodd a’i glwb cartrefol Bala am gyfnod bur cyn ymuno â’r Derwyddon.

Clwb cyfeillgar

“Mi wnes fwynhau fy nghyfnod gyda Chaer, ond dwi feddwl bod fi wedi neud y penderfyniad cywir yn ymuno a’r Derwyddon. Mae’n glwb cyfeillgar, fel teulu,” meddai.

“Mae cyn-ymosodwr Porthmadog, Dave Taylor, yn rhan o’r tîm hyfforddi ac mae’n dipyn o gymeriad. Mae Huw Griffiths wedi bod yn wych ers i fi ymuno, mae wedi rhoi cyfle i fi, ac mae fyny fi chwarae’n dda i gadw fy lle yn y tîm.

“Dw i’n sicr bod gwell pêl-droed yn cael ei chwarae yn y gynghrair hon nag yn y gynghrair yr oedd Gaer yn chwarae ynddi, mae mwy o ganolbwyntio ar chwarae’r bêl ar y llawr, a gwell tempo, roedd Caer yn fwy o chwarae pêl hir, oedd ddim yn fy siwtio i.

“Dw i wastad eisiau gwella a dw i angen sgorio mwy o goliau. Mi ges i gôl yn erbyn Bala…”

Y gêm ddiwethaf rhwng y ddau glwb oedd ar y Garreg  gyda Derwyddon yn fuddugol o 2-0, maen nhw ar rediad o golli ond un gêm mewn deg. I bwysleisio’r dechrau dau i’r tymor mae Huw Griffiths wedi cael ei enwebu am reolwr y mis, mis Hydref.

Rhestr fer am reolwr y mis Hydref

Colin Caton – Y Bala

Christian Edwards – Met Caerdydd

Huw Griffiths – Derwyddon Cefn

Scott Ruscoe  – Y Seintiau Newydd