Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama y  mis hwn.

Er nad oes dim newidiadau o’r garfan a chwaraeodd yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Iwerddon – heblaw am Emyr Huws, sy’n dychwelyd ar ôl anaf – mae Chris Coleman wedi datgelu y bydd dau dîm gwahanol yn cael ei ddewis ar gyfer y ddwy gêm ar Dachwedd 10 a 14.

Bydd y gêm yn erbyn Ffrainc yn gyfle i’r rheiny wnaeth dangyflawni yn yr ymgyrch i greu argraff cyn yr ymgyrch  ragbrofol nesaf, a’r disgwyl ydi y bydd dipyn o arbrofi yn y gêm yn erbyn Panama.

Sut siâp sydd ar y garfan?

Mae Emyr Huws yn ei ôl ar ôl anaf, felly gobeithio caiff funudau ar y cae i gael ei ffitrwydd yn ôl a chreu argraff.

Mae Ashley Williams yn y garfan, mae’n bosib y byddai seibiant o’r garfan wedi gwneud lles iddo ar ôl yr hunllef o dymor y mae o ac Everton wedi’i gael.

Dw i wir yn meddwl ei bod hi’n bryd gadael Jonny Williams ac Andy King allan. Dydi’r un o’r ddau wedi gwneud digon i haeddu eu lle yn y garfan dros y gemau diwethaf.

Dw i’n deall hefyd bod y gemau rhagbrofol o dan-21 yn cael eu chwarae yr dyddiau a’r gemau cyfeillgar, ond mi fasa wedi bod yn gyfle i gael golwg ar Harry Wilson, Tyler Roberts a Mathew Smith hefyd.

Dw i’n tybio y bydd Ethan Ampadu, David Brooks a Tom Lockyer yn chwarae yn erbyn Panama – ond am gyfle fasan nhw’n ei gael o gael munudau ar y cae yn erbyn Ffrainc ym Mharis. Profiad go iawn.

Mae ymosodwr Barnsley, Tom Bradshaw, heb ei enwi yn y garfan, ond mae enw Marley Watkins (Norwich) i lawr, felly gobeithio y bydd o’n cael amser ar y cae i’w brofi ei hun.

Dydi’r golwr, Wayne Hennessey, ddim yn cael cyfnod da gyda’i glwb Crystal Palace sydd ar waelodion yr Uwch Gynghrair, felly mi fasa hwn yn gyfle da i roi gêm i Danny Ward yn erbyn Ffrainc a’r golwr arall, Chris Maxwell, yn erbyn Panama.

Dyfodol Chris Coleman 

Gyda’i gytundeb fel hyfforddwr yn dirwyn i ben ddiwedd y mis, mae Chris Coleman yn mynnu ei fod yn pendroni dros ei ddyfodol am nifer o “ffactorau” gwahanol – ac nid am ei gytundeb yn unig.

“Mae’n rhaid i mi edrych ar y peth”, meddai, “a ydw i’n gallu mynd [â’r garfan] ymlaen, yw’r strwythr yr hyn ydw i ei eisiau iddi fod? Ydy’r cyfleusterau gyda ni i’w symud ymlaen?”

Ac wrth gydnabod bod y camau nesaf i Gymru yn mynd i fod yn “anodd”, gofynnodd: “ai fi yw’r dyn i gymryd [y cam ymlaen], ac a yw’r sgiliau gen i i wneud hynny?”

Er hyn, mae’n dweud y bydd yn rhaid cynnal rhagor o drafodaethau cyn dod i benderfyniad iawn.

“Bydd yna ddau neu dri sgwrs arall, byddwn i’n meddwl, cyn y bydd yna ateb o ‘ie’ neu ‘na’ yn dod oddi wrtha’ i neu’r blaid arall.”

Y garfan

Gôl-geidwaid Wayne Hennessey, Danny Ward, Chris Maxwell

Amddiffynwyr Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu

Canolwyr Joe Allen, David Edwards, Andy King, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Eyr Huws, Jonathan Williams

Blaenwyr Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn, David Brooks