Mae Caerdydd wedi cael dechrau da i’w tymor o dan reolaeth Neil Warnock, mae cefnogwyr yn heidio nôl i Stadiwm Ddinas Caerdydd, ac mae’r tîm yn chwarae mewn glas – be all fynd o’i le?

Mae Tracy Shanahan, yn wreiddiol o Faes-glas ger Treffynnon, yn byw yng Nghaerdydd ers 1985 ac yn dal tocyn tymor ers 12 mlynedd.

“Mi wnes i symud i Gaerdydd yn 1985 i weithio, wnes fynychu fy ngêm gyntaf yn 1988 ym Mharc Ninian ac ers 12 mlynedd rwyf â thocyn tymor.

“Mae’n dipyn o rollercoaster i fod yn gefnogwr Caerdydd, o wylio nhw ym Mharc Ninian i gyrraedd yr Uwchgynghrair mewn Stadiwm wych, mae wedi bod yn dipyn o siwrne. Mae fy ngŵr yn gefnogwr brwd a swnian arno fo oeddwn i gael mynd, mi wnaeth ildio’n diwedd.

“Roedd y cyfnod pan wnaeth Vincent Tan newid y crysau i goch yn hunllef, roedd cefnogwyr yn ffraeo â’i gilydd, ac roedd awyrgylch gwenwynig o gwmpas y Stadiwm, roedd yr holl brofiad o gyrraedd yr Uwchgynghrair yn hunllef.

“Mae’n rhaid cofio bod Tan i raddau wedi achub y clwb, ac yn y diwedd mae wedi gwrando a newid ni nôl i las, ond roedd yn gyfnod anodd i bawb,” meddai.

‘Chwa o awyr iach’

“Mae Warnock wedi bod yn chwa o awyr iach, mae’r math o reolwr mae cefnogwyr yn gallu uniaethu â fo, mae’n gwerthfawrogi’r cefnogwyr. Hefyd pe bai ni’n ffodus i gael dyrchafiad y tymor hwn, dwi’n meddwl byddan ni mewn gwell cyflwr i fynd i’r Uwchgynghrair.

“Mae’r bencampwriaeth yn gystadleuol, mae rhywun yn gallu curo rhywun, fel y gwelson ni nos Wener yn cael gêm gyfartal yn erbyn Millwall gartref, ond mae Warnock yn hen ben yn y gêm yma, ac yn gwybod be sydd ei  angen i gael dyrchafiad.

“Mae Kenneth Zohore, Junior Hoilett a Sol Bamba yn chwaraewyr gwych, mae’n allweddol  i gadw’r tri yn holliach, heb anghofio Aron Gunnarsson sydd wedi ail-afael yn ei yrfa gyda ni.”

Mae Tracy Shanahan yn dal i gadw llygad ar ganlyniadau Maes-glas a Treffynnon, ac mae hefyd yn gefnogwr brwd o’r tîm cenedlaethol.

“Pan symudais i lawr i’r brifddinas doeddwn i ddim yn meddwl aros, rwyf dal yn edrych allan am ganlyniadau clybiau’r Gogledd, fel Maes -glas, Treffynnon a Wrecsam.

“Rwy’ i hefyd o’r farn mai Chris Coleman yw ein rheolwr am y dyfodol, ond mae angen dod a wynebau newydd i’r garfan, a rhoi gemau iddynt. Roeddwn yn siomedig i fethu allan ar Rwsia, ond roedd profiad Ffrainc yn yr Ewros yn fythgofiadwy.”