Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement, wedi wfftio adroddiadau sy’n ei gysylltu ag Everton.

Yn ôl rhai, fe allai ymuno ag Ashley Williams a Gylfi Sigurdsson fel is-reolwr yng Nglannau Mersi pe bai’r Eidalwr Carlo Ancelotti’n cael ei benodi’n rheolwr i olynu Ronald Koeman.

Fe gydweithiodd Paul Clement a Carlo Ancelotti droeon yn y gorffennol yng nghlybiau Chelsea, Real Madrid, Paris St. Germain a Bayern Munich.

‘Heb siarad ag Ancelotti’

Yn ôl Paul Clement, dyw e ddim wedi trafod y swydd yn Everton gyda’r Eidalwr, ond mae’n mynnu na fyddai ganddo fe ddiddordeb bod yn is-reolwr eto.

“Fyddai dim diddordeb gyda fi o gwbl,” meddai prif hyfforddwr yr Elyrch. “Dw i’n mwynhau bod yma.”

Fe adawodd Paul Clement ei gydweithiwr yn yr Almaen i ddod i Abertawe fis Ionawr, ond mae’n canfod ei hun dan bwysau erbyn hyn, ar ôl dechrau digon siomedig i’r tymor.

“Mae’r clwb hwn yn dda iawn, mae’n her enfawr dw i’n ei mwynhau a does gyda fi ddim cynlluniau i fynd i unman.

“Dw i heb siarad â Carlo felly does gyda fi ddim syniad [beth sy’n digwydd].”