Dean Saunders, hyfforddwr Wrecsam
Huw Ifor fu’n gwylio Wrecsam yn trechu Tref Fleetwood ar y Cae Ras ar brynhawn Gŵyl y Banc…

Fel pob un o’r 4,300 o gefnogwyr fu yno brynhawn ddoe, cyrhaeddais y Cae Ras yn llawn gobaith a disgwyliadau y gallwn ni aros ar frig y tabl. Yn fy marn i, roedd Fleetwood wedi teithio i’r Cae Ras heb lawer o ddisgwyl gallu curo Wrecsam. Roeddynt yn brin o uchelgais a’u unig dacteg oedd cicio, baglu a thynnu crysau’r cochion er mwyn tarfu ar lif y chwarae.

Roedd y dacteg honno yn fethiant llwyr ac fe aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl dim ond dwy funud. Cychwynnodd gyda symudiad hyfryd gan Curtis Obeng i lawr yr asgell dde. Croesodd Obeng i Danny Wright, sodlodd yntau tuag at y postyn pellaf a dyna le’r oedd Speight i’w tharo i gefn y rhwyd o ryw fodfedd.

Byddai wedi bod yn hyfryd petai gan Speight yr amynedd i adael iddi rowlio dros y llinell gan fod Danny Wright angen yr hyder sy’n dod gyda sgorio goliau. Mae ei chwarae yn arbennig ond byddai sgorio un yn sicr o esgor ar fwy.

Aeth Wrecsam ati i reoli’r gêm yn llwyr. Mae Lee Fowler yn peri gofid i ni fel cefnogwyr oherwydd mae’n haeddu cael chwarae ar lefel uwch. Mae’n creu amser i’w hun ar y bêl bob amser,  ac yn tynnu’r llinynnau o ganol cae. Mae ganddo’r dalent i ddod a chwaraewyr eraill i mewn i’r gêm, ac mae o’n rhoi hyder i’r rhai o’i amgylch. Byddai ei golli yn ergyd enfawr i’n gobeithion y tymor hwn.

Man gwan Wrecsam oedd y methiant i sgorio ddigon o’r holl gyfleoedd a grëwyd. Methodd Morrell, Harris, Tolley, Wright, Pogba a Cizzi oll gyfleoedd gwych. Pe bai Wrecsam wedi sgorio gyda’u cyfleoedd i gyd, fe allai fod wedi bod yn 10-0.

Ond roedd rhaid bodloni gyda dwy. Tafliad hir gan Obeng greodd yr ail gôl, wrth i Morrell esgyn i’w phenio i gefn y rhwyd. Wedi hynny, fe gafwyd  bonllefau o’r gân:

‘ Mangan, whats the score? Mangan, Mangan whats the score?’

Cân o wawd i’r chwaraewr a adawodd am borfeydd breision dros yr haf. Prin yw’r hiraeth amdano pan fo Speight yn chwarae fel y mae.

Yn y 5 munud olaf fe sgoriodd Pogba ond roedd Speight wedi llawio, felly diddymwyd y gôl. Pan orffwysodd y bêl yng nghefn y rhwyd fe afaelodd y dyn tu ôl i mi amdanaf. Roedd pawb yn hapus, pawb yn dawnsio a phawb yn canu. Braf oedd bod yn nhorf y Cae Ras brynhawn Llun yn llawenhau mewn buddugoliaeth arall. Gobeithio y daw’r teimlad hwn yn un cyfarwydd.