Alfreton Town 1 Wrecsam 4


Dean Saunders, canmol ac annog
Er gwaetha’ un o’u buddugoliaethau gorau ers blynyddoedd, mae rheolwr Wrecsam yn dweud bod llawer iawn o waith i’w wneud eto.

Roedd Dean Saunders wrth ei fodd ar ôl i’r tîm sgorio pedair oddi cartre’ am y tro cynta’ o dan ei ofalaeth. Ond roedd hefyd yn feirniadol o’r chwaraewyr am fod yn rhy lac tua diwedd y gêm.

“Buddugoliaeth wych, ysbryd gwych, ond mae yna lwyth o waith i’w wneud ar wahanol bethau,” meddai ar wefan y clwb.

Yn ôl yr haneswyr, dyma’r dechrau gorau i Wrecsam mewn 60 mlynedd.

Hatric i Speight

Ar ôl methu â sgorio am bum gêm, fe gafodd y blaenwr, Jake Speight, hatric o fewn awr a chreu pedwaredd gôl i’r eilydd, Mathias Pogba.

Fe gafodd un ar ôl 13 munud, ail wych ar ôl 32, y drydedd o gic o’r smotyn ar ôl 57 munud, cyn creu’r ola’ yn y funud ôla’.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Wrecsam ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Gateshead.

Ond mae ganddyn nhw gêm galed fory yn erbyn Fleetwood sy’n wythfed ac yn un o dimau cryfa’r gynghrair.