Andy Dyer (o wefan Castell Nedd)
Lido Afan 1 Castell Nedd 0

Caerfyrddin 2 Port Talbot 0

Seintiau Newydd 2 Prestatyn 1

Roedd yna ddial melys i reolwr Lido Afan wrth iddyn nhw guro un o’r ffefrynnau am Uwch Gynghrair Cymru.

Gyda gôl yn y munudau ola’ gan yr eilydd, Mark Jones, fe lwydodd tîm Andy Dyer i guro Castell Nedd, ei hen glwb.

Fe gafodd ei ddiswyddo ddiwedd Mai ar ôl i Gastell Nedd fethu ag ennill y gynghrair, er gwaetha’ gwario mawr.

Cyn reolwr llwyddiannus y Barri a Llanelli, Peter Nicholas, oedd wedi cymryd ei le ond fe fydd Dyer wrth ei fodd gyda’r fuddugoliaeth, yn enwedig ar ôl cael cweir o 4-1 gan Lanelli wythnos yn ôl.

  • Roedd yna fuddugoliaeth dda hefyd i Gaerfyrddin yn erbyn Port Talbot gydag un gôl r ôl 20 munud gan Nicky Palmer ac ail gan Cledan Davies gyda munud neu ddwy yn weddill.
  • Dal eu tir a wnaeth y Seintiau Newydd gan fynd ddwy ar y blaen o fewn hanner awr – trwy Matty Williams a Nicky Ward – a dod yn agos sawl tro. Ond roedd rhaaid cadw Prestatyn draw am y deng munud ola’ ar ôl iddyn nhw gael un gôl trwy Ross Stephens.