Fe fydd Bangor yn gobeithio’n fawr am fuddugoliaeth ar Ffordd Ffarrar wrth wynebu Aberystwyth yng ngêm fawr Uwch Gynghrair Cymru yfory.

Wedi colli yn erbyn Castell-Nedd y penwythnos diwethaf, fe fydd Bangor yn sicr yn teimlo fod angen iddyn nhw ennill yfory os ydynt am ddangos eu bod yn un o’r ffefrynnau i ennill y gynghrair unwaith eto’r tymor hwn.

Llwyddodd Bangor i drechu Castell-nedd ddwywaith yn y Gnoll y tymor diwethaf, ond fe wnaeth Castell-nedd yn sicr na fydden nhw’n cael y cyfle i efelychu’r gamp honno’r tymor hwn wrth guro Bangor 2-0.

Roedd hi’n gyfartal tan 20 munud olaf y gêm, ond roedd Castell-nedd wedi rheoli mwyafrif meddiant yr ail hanner. Roedd Castell-nedd yn haeddiannol o’u buddugoliaeth felly wrth i Kerry Morgan a Craig Hughes sgorio o fewn 7 munud i’w gilydd.

Yn ôl Ioan Llywelyn o dîm hyfforddi CPD Bangor.  “Roedd y canlyniad yn erbyn Castell Nedd yn siomedig heb os.”

Ond naen nhw’n amlwg yn teimlo y gallan nhw gael rhywbeth o’r gêm “Gêm o ddau hanner oedd hi,” meddai Ioan Llywelyn, “Yn ystod yr egwyl roeddem ni’n llawn hyder fod modd i ni fynd allan a chipio’r pwyntiau yn yr ail hanner.” 

Fel llawer o bobl eraill, mae’n credu fod Castell-nedd yn mynd i fod yn ffefrynnau i gipio’r bencampwriaeth y tymor hwn, ac mae’r ffaith fod ganddynt bres i’w wario a’r modd i ymarfer yn llawn amser yn gymorth mawr iddynt. “Dwi’n sicr yn teimlo fod y ffaith fod Castell Nedd yn glwb llawn amser yn fantais fawr. Fe wnaeth eu ffitrwydd sefyll allan yn y diwedd.” 

Cadarnhaol

Ond mae pwyntiau cadarnhaol  i’w cymryd o’r gêm hefyd. “Roedd Neville Powell (rheolwr) yn pwysleisio arnom fod rhaid i ni ganolbwyntio ar y positif. Er enghraifft, cafodd Neil Thomas gêm wych yn ganol cae i ni. Mae’n holl bwysig i ni anghofio am y canlyniad yna ac edrych yn ein blaenau at gêm Aberystwyth.” 

Mae’n mynd ati i ddweud ei fod yn teimlo’n obeithiol iawn am y gêm yn erbyn Aberystwyth yfory. “Does dim anafiadau gennym ni, a hon ydy’r gêm olaf sydd rhaid bod heb Jamie Brewerton hefyd (ar ôl iddo gael ei wahardd).”

“Mae’r gynghrair yn gryf iawn eto’r tymor yma, gyda llawer o glybiau wedi cryfhau. Ond ar y diwrnod, does dim amheuaeth gall Fangor guro unrhyw dîm,” meddai Ioan.

Wedi dweud hynny, bydd yn sicr mwy o bwysau ar Fangor nag Aberystwyth yfory gan eu bod yn chwarae gartref o flaen y camerâu; wedi colli’r penwythnos diwethaf, ac mae disgwyliadau mawr arnynt i gystadlu ar frig y tabl unwaith eto, felly rhaid peidio â cholli mwy o bwyntiau ddiangen.

Stadiwm newydd

Mae’n bur debyg mai hon fydd gêm olaf Bangor yn erbyn Aberystwyth erioed ar Ffordd Ffarar.

Cyhoeddwyd yr wythnos hon gan gadeirydd y clwb, Dilwyn Jones, fod Bangor yn bwriadu symud i mewn i’w maes newydd yn Nantporth ym mis Ionawr os caiff y gwaith ei gwblhau mewn pryd.

Mae Ffordd Ffarrar wedi bod yn gartref i’r clwb ers y 1920au, ond mae Bangor wedi bod yn ceisio ail-leoli ers oddeutu 10 mlynedd. Bydd y safle newydd yn dal torf o 3,000.

Dyweda’r Cadeirydd nad yw gorfod symud yng nghanol y tymor yn gwbl gyfleus, ac fe fydd yn “her” iddynt ymdopi ag ef.

“Ond doedd gennym ni ddim llawer o opsiwn ond symud cyn gynted â phosib o ystyried y costau o gadw a chynnal Ffordd Ffarrar, sydd wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd,” meddai Dilwyn Jones.

Bydd y stadiwm bresennol yn cael ei ddymchwel ac fe fydd archfarchnad Asda yn cymryd ei le ymhen amser.