Wrecsam 1 – 1 Caergrawnt

Ddydd Sadwrn roedd y Cae Ras yn fwrlwm gyda 4200 o gefnogwyr yn llawn gobaith a disgwyliadau. Ond fe gychwynnodd Wrecsam yn araf iawn ac roedd eu canol cae yn aneffeithiol iawn.

Daeth cyfle cyntaf Wrecsam ar ôl pas arbennig gan Jay Harris dros yr amddiffyn ond fe ergydiodd Jake Speight heibio’r postyn. Roedd Wrecsam yn amharod i gadw’r bêl ar y ddaear a’i phasio o gwmpas felly daeth cyfleoedd Wrecsam o dafliadau pell, ciciau cornel a chiciau rhydd. Ar ôl chwarter awr fe groesodd James Tolley i’r blwch, peniodd Creighton yn ôl ar draws y gôl i Andy Morrel benio’r gôl gyntaf.

Cychwynnodd yr ail hanner gyda dwy ergyd o bell – un gan Jay Harris dros y trawst ac ergyd anhygoel gan Tom Shaw yn erbyn y trawst. Eto, roedd Wrecsam yn edrych ar eu peryclaf gyda chiciau rhydd ac roedd canol cae yn arbennig o wan. Gobeithio y cawn Chris Blackburn yn ôl yn fuan gan fod ei gadernid yng nghanol y cae yn caniatáu i’r chwaraewyr eraill gael rywfaint o ryddid.

Roedd hi’n gêm gyntaf i’r ymosodwyr Jake Speight a Danny Wright. Roedd Speight yn edrych yn fywiog iawn ac yn peri problemau i amddiffynwyr y gwrthwynebwyr. Ond ychydig iawn o effaith gafodd Wright ac roedd wedi blino erbyn cychwyn yr ail hanner. Daeth Pogba a Cieslewicz ymlaen yn ei le ef a Morrell ac roedd Wrecsam yn edrych yn llawer mwy effeithiol wedi hynny, gyda chryfder Pogba a chyflymder ‘Cheesy’.

Ar ôl symudiad gorau’r gêm yn y funud olaf rhwng Cheesy ac Obeng fe dynnodd Obeng y bel yn ôl o’r llinell derfyn ac ergydiodd Cheesy yn wyllt dros y trawst. Fe ddylai fod wedi sgorio. Tynnwyd Obeng oddi ar y cae funud yn ddiweddarach a daeth Tomason ymlaen yn gwisgo crys gydag enw Keates ar ei gefn – arwydd o’r trafferthion ariannol o bosib.

Unwaith eto fe ymosododd Caergrawnt heb lawer o ymdrech gan y tîm cartref i’w taclo. Fe ergydiodd Conal Platt ac fe drawodd y bêl un o chwaraewyr Wrecsam a newid ei gyfeiriad tuag at y gôl. Un yr un. Roedd y gôl yn hynod o rwystredig gan iddi fod mor hwyr yn y gêm, ond a bod yn onest roedd Caergrawnt yn haeddu rhywbeth o hon.

Huw Ifor Huws