Ffordd Farrar
Bangor 3-2 Llanelli

Fe drechodd Bangor Llanelli yn Ffordd Ffarar ddydd Sadwrn ar benwythnos cyntaf tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl mynd ar ei hol hi yn gynnar, fe gipiodd Bangor fuddugoliaeth hwyr wrth i Kyle Wilson sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb gyda phum munud yn weddill.

Roedd hi’n gêm hynod gyffrous, gyda llond trol o gyfleoedd gwych i’r naill ochr.

Er iddo weld ei dîm yn colli, dywedodd Monro Walters, un o gefnogwyr brwd Llanelli, yn ei fod hon yn “hysbyseb gwych i’r Uwch Gynghrair Gymraeg”.

Yn ôl is-hyfforddwr clwb pêl-droed Bangor, Ioan Llywelyn, roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig iddynt.

“Dyma’r dechrau gorau posib. Mae yn sicr yn magu hyder, ac mae’n braf cael pwyntiau ar y bwrdd. Ond mae o hefyd yn braf cael curo Llanelli, gan fod llawer o’r chwaraewyr yn cofio colli yn eu herbyn nhw ddwywaith y tymor diwethaf.”

Ychwanegodd: “Roedd ysbryd ac ymdrech y tîm cyfan yn wych. Yn enwedig o ystyried ein bod ni wedi ildio gôl gynnar. Ond fe wnaethom ni frwydro yn ôl i ennill y gêm, felly dw i’n meddwl fod hynny’n dangos ein bod ni’n barod i herio am y gynghrair unwaith eto eleni.”

Llanelli gychwynnodd orau, gan gadw’r meddiant cynnar. Doedd hi ddim yn syndod felly pan aeth y Cochion ar y blaen wedi pum munud wrth i Chris Venables esgyn i benio cic rydd Craig Williams i gefn y rhwyd.
Pum munud yn ddiweddarach, roedd Bangor yn hawlio cic o’r smotyn wedi i Dave Morley gael ei lorio gan Ashley Evans, ond anwybyddodd y dyfarnwr Huw Jones y drosedd honedig.

Y tîm cartref oedd yn rheoli’r gêm erbyn hyn, gyda Les Davies yn arwain o’r blaen. Creodd Davies gyfle gwych i Chris Jones ergydio, ond fe lwyddodd Ashley Morrison yn gôl Llanelli i’w gwyro ymaith gydag arbediad campus.

Gall Bangor fod wedi cael cic arall o’r smotyn wedi i Les Davies gael ei wthio yn y cwrt, ond ni chwibanodd y dyfarnwr.

Roedd Ioan Llywelyn yn sicr yn teimlo y dylai ei dîm fod wedi cael eu gwobrwyo gyda chic o’r smotyn.

“Dyna oedd y teimlad gan bawb ar y fainc beth bynnag,” meddai, “ond dw i’n falch nad oedd hynny wedi cael dylanwad ar ganlyniad y gêm. Os unrhyw beth, efallai ei fod o wedi gwneud y chwaraewyr yn fwy blin ac yn fwy penderfynol i’w curo nhw.”

Heblaw am hynny, bu Bangor yn esgeulus gyda’u cyfleoedd yn yr hanner cyntaf ar y cyfan, a Llanelli oedd yn edrych tebycaf o sgorio eto.

Ond yna wedi hanner awr o chwarae fe’i gwnaed hi’n gêm gyfartal. Gwthiodd Les Davies ei ffordd heibio Surman i groesi i Alan Bull yn y cwrt. Doedd dim camgymeriad y tro hwn wrth i Bull basio’r bêl i gornel y rhwyd o ddeg llath.

Cafwyd dechreuad byrlymus i’r ail hanner hefyd. Rhoddwyd cic rydd i Fangor wrth y fflag gornel wedi tacl fydr Kris Thomas ar Sion Edwards. Dyma arweiniodd yn anuniongyrchol at ail gôl Bangor wrth i Chris Roberts ddarganfod Les Davies, ac yntau’n canfod Dave Morley. Saethodd Morley’n gryf a’i droed chwith a churo Morris yn gôl y Cochion. 2-1 wedi 47 munud.

Bu Morley yn ddylanwadol iawn trwy gydol y prynhawn, ac fe ddaeth yn agos iawn at sgorio cic ‘dros ben’ ond am arbediad gwych arall gan Morris.

Ond yna, yn erbyn llif y chwarae, fe sgoriodd yr eilydd, Jordan Follows i Lanelli i’w gwneud hi’n ddwy yr un gyda chwater awr yn weddill.

Roedd y gêm yn hynod agored erbyn hyn, wrth i’r ddau dîm wthio i gipio’r pwyntiau. Gyda phum munud i chwarae, croesodd Alan Bull at y postyn pellaf i Les Davies benio ar draws gol lle’r oedd Kyle Wilson yn aros i osod y bel yn y rhwyd o dair llath.

Roedd mwy o gyfleoedd i ddod, ond fe ddaliodd Bangor ymlaen i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn un o’u gwrthwynebwyr pennaf.

Creda Ioan Llywelyn fod Bangor wedi haeddu’r tri-phwynt yn y pen draw. “Roeddem ni’n rhoi lot o bwysau arnyn nhw tua diwedd y gêm, ac mi o’n i’n hapus gyda’r nifer o gyfleoedd yr oeddem yn eu creu. Yn enwedig ar ôl y ciciau o’r smotyn y dylem ni fod wedi eu cael, ac ail gol Llanelli ddaeth yn erbyn llif y chwarae, roedd hi’n braf gweld y tîm yn brwydro yn ôl mor gryf.”

Roedd Monro Walters, cefnogwr Llanelli, yn hynaws iawn wrth ganmol Bangor. “Yn yr ail hanner yn enwedig, ar wahân i gol Jordan Follows, dim ond un tîm oedd yn mynd i ennill. Pob clod i Fangor, maen nhw wedi talu’r pwyth yn ôl yn llawn ar ôl y tymor diwethaf.”

Mae’n awchu hefyd am gael un o’u chwaraewyr pwysicaf yn ôl ar y cae. “I Lanelli, fy nghlwb. Un neges. Rhys Griffiths, brysia wella…yn fuan. Nid diwedd y byd oedd colli, ond dwi’n sicr fod gwell i ddod gan y Cochion.”

Hon oedd gêm fyw Sgorio ar S4C ddydd Sadwrn, gwyliwch yr uchafbwyntiau isod.