Dyma dîm yr wythnos Uwch Gynghrair Cymru, wedi’i ddewis yn arbennig i Golwg360 gan griw Sgorio.   Bydd uchwfbwyntiau’r Uwch Gynghrair ar S4C am 10pm heno.

Golwr

Nikki-Lee Bulmer (Airbus UK) – Cyfres o arbediadau gwyrthiol ganddo yn achub pwynt i’w dîm yn erbyn Port Talbot.

 

Amddiffynwyr

 

John Irving (Y Bala) – Perfformiad disglair i’r cefnwr dde wrth i’r Bala gipio pwynt oddi cartref yn y Seintiau Newydd.

Paul Cochlin (Port Talbot) – Enillodd bopeth yn yr awyr ar ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd a sgoriodd gôl ar ben y cyfan.

Lee Hartshorn (Y Drenewydd) – Llechen lân a triphwynt i’r Drenewydd a’u rheolwr newydd Bernard McNally. Tîm newydd sbon ganddyn nhw i bob pwrpas, ond un o’r hen wynebau o’r tymor diwethaf yn chwarae rôl allweddol.

Kai Edwards (Castell-nedd) – Tymor ardderchog gyda Phrestatyn llynedd, ymddangosiad cyntaf cryf i Gastell-nedd yn ymosodol ac amddiffynnol bnawn Sul yn erbyn Aber.

 

Canol Cae

Matty Crowell (Port Talbot)-  Gêm gyntaf cyn-chwaraewr Wrecsam i Bort Talbot a safon ei chwarae yn amlwg trwy’r gêm, ciciau gosod peryglus hefyd.

Dave Morley (Bangor) – Dewiswyd yn seren y gêm gan Malcolm Allen o’r gêm fyw rhwng Bangor a Llanelli. Capten am y dydd, dangosodd gymeriad i droi colled yn fuddugoliaeth.

Leon Jeanne (Lido Afan)-  Ei 15fed clwb mewn 16 mlynedd ond fe brofodd cyn-chwaraewr Caerdydd a QPR bod ganddo’r sgiliau o hyd, os nad y ffitrwydd ar hyn o bryd. Un i’w wylio am weddill y tymor.

 

Ymosodwyr

Les Davies (Bangor) – Efallai nad oedd ei enw i lawr fel un o sgorwyr tair gôl Bangor bnawn Sadwrn, ond creodd bob un o’r goliau i’r Pencampwyr.

Chris Mason (Y Bala) – Prif sgoriwr y clwb y tymor diwethaf yn rhoi neges i’w reolwr Colin Caton er iddo arwyddo Lee Hunt, bod yna ymosodwr arall am hawlio’i le yn y tîm.

Kerry Morgan (Castell-nedd) – Dychwelyd am ei ail gyfnod gyda’r Eryrod. Draenen yn ystlys Aber drwy’r pnawn. Sgoriodd y bedwaredd ym mherfformiad campus tîm Terry Boyle.