Malky Mackay
Mae hyfforddwr Caerdydd, Malky Mackay, wedi clodfori ei dim ar ôl iddyn nhw fynd i dop y tabl yn dilyn buddugoliaeth 3 – 1 dros Ddinas Bryste.

Fe aeth yr Adar Glas ar y blaen o ganlyniad i goliau gan Mark Hudson, Craig Conway a  Robert Earnshaw yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Sgoriodd ymosodwr Dinas Bryste, Nicky Maynard, gôl gysur â naw munud yn weddill.

Dywedodd Malky Mackay ei fod wrth ei fodd yn dilyn trydedd fuddugoliaeth ym mhob cystadleuaeth.

“Roeddwn i wrth fy modd â’r ffordd y dechreuon ni’r gêm,” meddai. “Roedden ni wedi gweithio’n galed o’r dechrau.

“Roedden ni wedi gorfodi i Ddinas Bryste wneud camgymeriadau yn yr hanner cyntaf ac roedd yn wych sgorio goliau yn eu herbyn nhw.

“Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn gêm anodd – dyma fy ngêm gyntaf gartref, roedd hi’n gêm ddarbi, ac roedd Dinas Bryste wedi cael canlyniad siomedig yr wythnos diwethaf.

“Felly roedd rhaid i ni chwarae â’r ymddygiad cywir heddiw a dw i’n credu eu bod nhw wedi gwneud hynny yn yr hanner cyntaf.

“Rydw i’n hapus am ei fod yn amlwg fod yr hogiau wedi bod yn gwrando arna i a fy hyfforddwyr.

“Mae’n waith caled bob dydd wrth ymarfer ond roedd yn braf gweld y cwbl ar waith.”