Ffordd Ffarrar ym Mangor
 
Rydym ar drothwy penwythnos cyntaf yr Uwch Gynghrair yng Nghymru ac fe fydd dau o’r ffefrynnau i gipio’r gynghrair yn herio’i gilydd yfory yn eu gêm gyntaf o’r tymor newydd. 

Mae Andrew Owen, cefnogwr brwd o glwb pêl-droed Llanelli, yn disgrifio’r gêm fel “six pointer go-iawn”.

Gall hon sbarduno’r naill dim neu’r llall ar ddechrau eu hymgyrch a darparu’r hyder hollbwysig hwnnw sydd ei angen i fynd ar rediad o fuddugoliaethau ar ddechrau’r tymor.

Yn sicr, fe fydd clybiau eraill, megis Y Seintiau Newydd a Chastell-nedd, oll yn talu sylw i’r hyn sy’n digwydd ar Ffordd Ffarar yfory. Bydden nhw wrth eu bodd petai hon yn gorffen yn gyfartal.

Mae pob cefnogwr a rheolwr wedi datgan y bydd y gynghrair yn ras hynod agos a chystadleuol y tro hwn, ac fe all pwynt neu ddau yma ac acw benderfynu tynged y bencampwriaeth.

Roedd gan Monro Walters, cefnogwr arall i Gochion Llanelli, safbwynt diddorol ar y mater. Yn ei farn ef, mae’r ornest yfory fel fersiwn Gymraeg o’r ‘Charity Shield’ (caiff ei chwarae cyn cychwyn bob tymor rhwng enillydd yr Uwch Gynghrair yn Lloegr, ac enillydd y cwpan FA).

Bangor yw pencampwyr presennol y gynghrair, a Llanelli yw deiliaid Cwpan Cymru, felly mae’n rhaid dweud fod y gymhariaeth yn un gref.

Yn draddodiadol, dyw achlysur y ‘Charity Shield’ erioed wedi golygu llawer i glybiau Lloegr. Ryw arddangosiad cyfeillgar yw hi gan amlaf, a does neb yn credu fod ei chanlyniad yn darogan pwy fydd enillwyr y gynghrair.

Ond yn achos gornest Bangor a Llanelli brynhawn yfory fe all y rhai buddugol ennill mantais allweddol dros un o’u gwrthwynebwyr pennaf yn y ras am y gynghrair.

Ffordd Ffarar yn hytrach na charped Wembley fydd y llwyfan, a thorf o gannoedd yn lle 75,000, ond bydd yr angerdd a’r ysbryd cystadleuol ar ddangos ar y cae yfory yn siwr o fod yn gydradd ag unrhyw ornest mewn unrhyw gynghrair ar draws Prydain ar benwythnos cyntaf y tymor pêl-droed.

Bydd gêm Bangor v Llanelli yn fyw ar Sgorio ar S4c b’nawn Sadwrn am dri, gyda’r gic gyntaf am bedwar.