Garry Monk - Capten Abertawe
Bydd Abertawe yn wynebu Man City ddydd Llun nesaf wedi i’r gynghrair bêl-droed benderfynu y dylai pob un gêm – heblaw am Tottenham v Everton – gael eu chwarae.

Mae’r gynghrair bêl-droed wedi cadarnhau y bydd naw o gemau’r Uwch Gynghrair a phob un o gemau’r bencampwriaeth yn cael eu chwarae’r penwythnos yma.

Daw’r penderfyniad er gwaethaf y terfysg yn Llundain, Manceinion, Birmingham, Lerpwl, Bryste a sawl dinas a thref arall.

Bydd clwb pêl-droed Dinas Caerdydd yn cael wynebu Dinas Bryste yn eu hail gêm, a’r gyntaf gartref, o’r tymor, ar Ddydd Sul.

Ac fe fydd ymgyrch gyntaf yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair yn cael ei chwarae yn Stadiwm Etihad, Manceinion, nos Lun.

“Ar hyn o bryd dim ond Tottenham ac Everton fydd ddim yn cael ei chwarae,” meddai Cyfarwyddwr yr FA, Richard Scudamore.

“Mae’r heddlu wedi gwneud gwaith gwych, ond mae Tottenham yn parhau yn safle trosedd, a dyw’r cyngor heb gael digon o amser i wneud yr hyn sydd ei angen.”

Cadarnhaodd eu bod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda gweddill y gemau.

“Mae’r naw gem arall yn mynd i gael eu chwarae, cyn belled â nad oed mwy o drafferthion. Mae’n biti colli un gêm, ond rydyn ni’n cefnogi’r hyn y mae’r heddlu yn ceisio ei gyflawni.”

Awgrymodd y Prif Weinidog, David Cameron, y dylai’r gemau eraill o fewn dinas Llundain gael eu chwarae, ond yn gynharach yn ystod y dydd er mwyn ei gwneud yn haws cadw trefn.

Ond ychwanegodd ei fod yn benderfyniad i’r gynghrair bêl-droed a’r heddlu yn y pen draw.