Gary Speed
Bydd Cymru’n herio’r ‘Socceroos’ yn stadiwm Dinas Caerdydd heno ac mae Gary Speed yn credu y bydd Awstralia yn brawf cadarn i’w dîm.

Llwyddodd yr Awstraliaid i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2006 a 2010 a gwneud tipyn o argraff ar y llwyfan mwyaf oll.

Mae Speed yn mynnu fod angen chwarae yn erbyn rhagor o’r gwledydd cryfaf, fel Awstralia, os yw Cymru am esgyn o’r 112fed safle yn y byd.

Awstralia

“Mae Awstralia yn wrthwynebwyr cryf. Maen nhw wedi curo’r Almaen eleni felly mae’n rhaid eu bod nhw’n gryf,” meddai Speed wrth raglen Sgorio. “Maen nhw’n hoffi chwarae’n sydyn, ac yn rhoi lot o bwysau ar y gwrthwynebwyr.

“Bydd rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio’r un mor galed â nhw. A gobeithio cael ein hysbrydoli gan y meddylfryd yno o wneud popeth i ennill gemau.”

Mae Awstralia bellach ar drothwy 20 gwlad gorau’r byd, ac mae rheolwr Cymru yn credu bydd chwarae yn eu herbyn yn gwneud lles i Gymru.

“Bydd chwarae yn erbyn y gwledydd cryfaf yn help mawr i ni ddatblygu ein chwaraewyr ein hunain,” meddai.

“Fe fydd hi hefyd yn anoddach sicrhau buddugoliaethau, wrth gwrs, ond mae’n rhaid edrych ar y darlun ehangach.

“Wrth chwarae yn erbyn gwledydd o’r fath fe fydd gyda ni well carfan ac yn gallu paratoi ar gyfer gemau grŵp Cwpan y Byd.

“Mae hefyd yn fwy o atyniad i’r cefnogwyr. A’r mwyaf o gefnogaeth y cawn ni, y mwyaf tebygol ydyn ni o gael canlyniadau da, a bydd hynny yn ei dro yn creu mwy o ddiddordeb yn y gemau.”

112fed

Er bod llawer o feirniadaeth wedi bod yn ddiweddar am safle isel Cymru ymysg y rhestr detholion, dyw Speed ddim yn pryderu’n ormodol am hynny.

“Yr unig ffordd allwn ni gywiro hynny yw drwy sicrhau canlyniadau da yn ein gemau,” meddai.

“Bydd cael canlyniadau positif yn golygu y cawn ni ddyrchafiad fyny’r rhestr. Pwy a ŵyr a ydyn ni’n haeddu bod yn y safle yma… y gwirionedd yw ein bod ni yno, ac felly mae angen newid hynny trwy berfformio ar y cae.”

Carfan lawn

Mae carfan weddol lawn ar gael ar gyfer y gêm heno. Yr unig rai sydd wedi tynnu allan hyd yn hyn yw James Collins (anaf i’w gefn), Sam Vokes (ffêr) ac Andrew Crofts (ffêr).

“Dwi’n deall fod y tymor ar fin cychwyn, neu newydd gychwyn i’r rhai yn y bencampwriaeth, ac mae gan nifer o’r bois gemau mawr ar y gorwel, ond pa bynnag dim fydd yn cael ei ddewis i gychwyn heno – o ystyried y chwaraewyr sydd gennym ni – fe fydd o’n dîm cryf,” meddai Speed.

Bydd cyfle i Speed enwi Gareth Bale yn nhîm Cymru am y tro cyntaf ers iddo gymryd yr awenau yn ôl ym mis Rhagfyr. Bu’n rhaid i Bale fethu’r pedair gêm ddiwethaf oherwydd anafiadau.

Mae’n debygol y bydd Craig Bellamy hefyd yn cael cyfle i gychwyn heno, ac mae’r rheolwr yn hyderus y gall yr ymosodwr greu argraff yn stadiwm Dinas Caerdydd.

“Mae Craig yn teimlo’n dda, ac mae wedi bod yn gweithio’n galed. Mae o wedi bod fel yr hen Craig eto – yn achwyn yn fy nghlust o hyd – felly mae hynny’n arwydd da!” meddai.

Earnshaw

Dywedodd Robert Earnshaw ei fod yn cytuno â Speed ynglŷn â phwysigrwydd gemau fel yr un heno.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed bob tro. Dydyn ni ddim yn meddwl – ‘o, dim ond gem gyfeillgar yw hi… dydyn ni ddim ond yma am rai dyddiau.’

“Mae pawb yma yn canolbwyntio ar wella, ac mi ydyn ni’n gwella o hyd. Rydyn ni’n magu hyder ac mae teimlad cyffrous o fewn y garfan.

Os ydym ni’n bwriadu ei gwneud hi mewn i bencampwriaeth fawr, dyma’r math o dimau sydd rhaid eu hwynebu.

“Hefyd, fel unigolyn, rydych chi eisiau chwarae yn erbyn y gorau. Pan gefais i fy nghap cyntaf yn erbyn yr Almaen, roeddwn i’n meddwl – ‘Waw! Mae hyn yn ffantastig.’

“Rydych chi’n cyffroi wrth chwarae yn erbyn y timau da, ac yn chwarae yn well eich hunan.”

Mae rheolwr Awstralia, Holger Osieck, yn credu y bydd Cymru yn her fawr i’w dîm, er gwaethaf eu safle yn y rhestr detholion.

“Rydw i’n credu  fod Cymru’n dîm da o ystyried yr holl unigolion dawnus sydd ganddynt. Mae rhai fel Aaron Ramsey, Gareth Bale, Craig Bellamy a Robert Earnshaw yn chwaraewyr o safon uchel iawn. Byddwn ni’n wynebu tîm cryf.” meddai.