Tref Prestatyn
Ar drothwy’r tymor newydd dyma barhau i broffilio clybiau Uwchgynghrair Cymru, gan gynnwys barn y cefnogwyr am eu gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod

Fe fyddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb bob diwrnod nes y gêm gyntaf nos Wener nesaf, Awst 12fed.

Afan Lido :

Stadiwm – Stadiwm  Marstons

Rheolwr – Andy Dyer

Trosglwyddiadau –  Haf  2011-

Mewn – Tyrone Toppar, Daniel Sheehan, Declan John, Liam Hancock, Liam Mcreesh, Daniel Thomas, Daniel Gibson, Andrew Hill

Barn cefnogwr

Phil Robbinson – “Yn realistig – wedi sbïo ar y garfan sydd gennym ni, ac wedi gwylio perfformiadau’r gemau cyfeillgar hyd yn hyn – rydw i’n disgwyl gweld y clwb yn gorffen y tymor o fewn y chwech uchaf yn y gynghrair. Mae’r tîm dan reolaeth newydd, ac mae rhywfaint o chwaraewyr newydd hefyd, ac felly gyda’r cyfuniad yna, dwi’n gobeithio y byddwn ni’n gwneud cynnydd. Rydyn ni’n glwb uchelgeisiol.”

Tref Prestatyn:

Stadiwm – Gerddi Bastion

Hyfforddwr – Lee Jones

Trosglwyddiadau Haf 2011 –

Mewn – Dave Roberts, Martin Beattie, Simon Williams, Guto Hughes –

Allan – Lee Hunt, Jack Lewis,

Barn

Guto Hughes – “Mae’r gemau cyn dechrau’r tymor wedi mynd yn dda yn fy marn i. Mae pawb yn gweithio’n galed iawn ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen i’r tymor gychwyn erbyn hyn. Mae’r cystadleuaeth am lefydd yn y garfan ac yn y tîm cyntaf yn ffyrnig, yn enwedig ar ôl i ni orffen yn y 5ed safle y tymor diwethaf. Y nod y tro yma fydd gwella ar hynny.”