CPD Bangor
Ar drothwy’r tymor newydd dyma barhau i broffilio clybiau Uwchgynghrair Cymru, gan gynnwys barn y cefnogwyr a’u gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Byddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb bob diwrnod nes y gêm gyntaf nos Wener nesaf, Awst 12fed

CPD Bangor :

Stadiwm – Ffordd  Farrar

Rheolwr – Neville Powell

Trosglwyddiadau Haf 2011

Mewn – Kyle Wilson, Lee Idzi, Michael Wilson, Neil Thomas

Allan

Barn y Cefnogwyr

Huw Pritchard – “Mae’n mynd i fod yn anodd dal mlaen i’r teitl. Bydd pawb allan i’n curo ni y tro hwn. Y blaenoriaeth yw gwneud yn siwr ein bod ni yn hanner uchaf y tabl o gwmpas troad y flwyddyn, ac wedyn fe fydd cyfle da gennym ni.

“Rydyn ni wedi cryfhau yng nghanol cae wrth arwyddo Neil Thomas. Mae Michael Walsh yn ôl hefyd, ac mae eisoes yn ffefryn gyda’r cefnogwyr. Mae o wedi chwarae i’r clwb o’r blaen, felly fydd o’n cynnig profiad. Mae Kyle Wilson, yr ymosodwr newydd yn edrych yn addawol iawn hefyd. Mae ganddo record dda iawn o sgorio goliau i glybiau yn Lloegr.”

Llanelli:

Stadiwm – Parc Stebonheath

Rheolwr – Andy Legg

Trosglwyddiadau Haf 2011

Mewn – Chad Bond, Lee Surman, Lloyd Grist, Craig Williams.

Allan – Declan John, Wyn Thomas

Barn y Cefnogwyr

Andrew Owen – “ I fod yn onest dw i eisiau’r gynghrair neu ddim byd! Bydda ni fel cefnogwyr yn edrych ar gêm Bangor fel ‘six pointer’ er ei bod hi mor gynnar yn y tymor. Hefyd, mi fydd cyflwr y cae yn bwysig. Roedd e’n broblem tymor diwethaf. Fel deiliad y gwpan mi wnawn ymdrechu’n galed i’w hennill hi eto.”

Monro Walters – “Mae carfan Llanelli wedi cryfhau tipyn ers y tymor diwethaf, ac mi ddylen ni fod yn fwy cystadleuol am y tlws Principality y tymor hwn. Ond mae’r clybiau eraill wedi cryfhau hefyd. Felly fe fydd yn dipyn o gamp. TNS yw’r ffefrynnau (i ennill y gynghrair) oherwydd maent yn broffesiynol iawn, ond fe fydd Bangor a Chastell-nedd yn enwedig yn mynd am y brig. Mae’r bar yn codi pob blwyddyn, ond mae’n rhaid i ni wella ar bedwaredd safle y tymor diwethaf. Mae’r chwaraewyr gennym, ond rhaid cael dechreuad da.”