Brendan Rodgers
Mae Abertawe wedi cytuno i dalu £1.5 miliwn er mwyn arwyddo gôl geidwad FC Utrecht Michel Vorm.

Blwyddyn sydd ganddo’n weddill ar ei gytundeb â Utrecht.

Vorm yw’r ail ddewis yn safle’r golwr yn nhîm cenedlaethol yr Iseldiroedd. Mae gyda’r garfan ryngwladol ar hyn o bryd cyn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr Ddydd Mercher.

Mae Brendan Rodgers wedi bod yn chwilio am gôl geidwad ychwanegol ers i Dorus de Vries adael er mwyn ymuno â Wolverhampton Wanderers.

“Rydym ni wedi cytuno ar ffi, ond mae angen trafod telerau personol,” meddai Brendan Rodgers.

Pe bai Vorm, sy’n 27, yn cwblhau’r trosglwyddiad, ef  fydd y chweched chwaraewr i Rodgers ei arwyddo wrth i Abertawe geisio cryfhau eu carfan cyn dechrau eu hymgyrch cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Trezeguet?

Yn ôl papur newydd y Mirror, mae Abertawe hefyd yn ystyried gwneud cynnig am David Trezeguet, yr ymosodwr Ffrengig.

Mae cytundeb Trezeguet, sy’n 33 oed, â thîm Hercules o Sbaen wedi dod i ben, ac wedi i’w gytundeb gyda Napoli chwalu fis diwethaf, mae adroddiadau y gall yr Elyrch ei gipio.

Enillodd Trezeguet Gwpan y Byd â Ffrainc yn 1998. Mae wedi ennill 71 cap dros ei wlad, gan sgorio 34 o weithiau.