Ar drothwy’r tymor newydd dyma barhau i broffilio clybiau Uwchgynghrair Cymru, gan gynnwys barn y cefnogwyr am eu gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Byddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb bob diwrnod nes y gêm gyntaf nos Wener nesaf, Awst 12fed.

Airbus Uk Brychdyn :

Stadiwm – Y Maes Awyr

Hyfforddwr – Darren Ryan

Trosglwyddiadau Haf 2011 – Mewn – Danny Taylor, Ross Rule, Josh Griffiths, Mark Cadwallader, Rhys Darlington, Glenn Rule, Mike Hayes, Craig Whitfield

Allan – Kristian Rodgers

Barn y Cefnogwyr – Rory Sheehan.

“Wedi gorffen yn 8fed y tymor diwethaf, mae Airbus UK Brychdyn yn mynd mewn i’r tymor newydd yn llawn hyder ac yn edrych i wella ar gynnydd a wnaethon nhw tro diwethaf. Gobaith y clwb yw cael gorffen yn y 6 uchaf ar ôl colli allan tro diwethaf. Aethon nhw i’r gemau ail gyfle ond cafwyd eu trechu gan Aberystwyth yn y rownd gyntaf.”

“Hwb mawr i ni yw bod yr amddiffynnwr Tommy Holmes wedi cytuno i ymuno gyda ni o’r Seintiau Newydd. Mae ganddo fo lwyth o brofiad ar ôl ennill yr Uwch Gynghrair pedwar gwaith ac fe fydd o’n ddylanwad da arnom.”

“Chwaraewyr eraill sy’n creu argraff ers cyrraedd yw’r amddiffynnwr Glenn Rule, a’r ymosodwyr Craig Whitfield a Mike Hayes. Mae disgwyl i chwaraewyr allweddol tymor diwethaf, Ryan Edwards a Ian Sheridan i fod yn gryf eto.”

Tref Port Talbot:

Stadiwm – Gen Quip

Rheolwr – Mark Jones

Trosglwyddiadau Haf 2011 –

Mewn – Matt Crowell, Richard Evans, Paul Keddle, Kristian Rodgers, Paul Cochlin, Lewis Hartin, Dylan Blain.

Allan – Lee Surman, Liam McCreesh, Luke Bowen, Lloyd Grist.

Barn y Cefnogwr – Matthew Burgess

“Mae wedi bod yn haf anodd i Port Talbot gyda pedwar chwaraewr allweddol yn ymadael – a tri ohonynt yn ymuno â gwrthwynebwyr agos. Ond pob clod i’r bwrdd a’r hyfforddwyr am wneud ychwanegiadau craff i’r garfan.”

“Mae Mark Jones yn un da am ddod a chwaraewyr talentog newydd i mewn a’u gwella a’u datblygu ac felly dwi’n siwr bydd nifer o enwau newydd yn creu argraff ar y gynghrair y tymor hwn. Mae’r arian sy’n cael ei daflu o gwmpas gan nifer o’r clybiau eraill yn hollol wirion, ac felly dwi’n falch fod ein clwb ni yn mynd o gwmpas pethau yn y ffordd gywir.”