Wythnos i heno, fe fydd gemau uwch gynghrair Cymru yn ailddechrau unwaith eto gyda’r Seintiau Newydd yn croesawu Clwb Pêl-droed y Bala i Neuadd y Parc ar gyfer  gêm gynta’r tymor.

Ar drothwy’r tymor newydd dyma gyflwyno proffiliau’r ddau glwb, gan ddiweddaru newyddion y timau a chynnwys barn y cefnogwyr am eu gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Byddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb pob diwrnod o hyn nes y gêm gyntaf nos Wener nesaf, Awst 12fed.

Y Seintiau Newydd:

Stadiwm – Neuadd y parc

Rheolwr – Mike Davies

Trosglwyddiadau Haf 2011 – Mewn – Greg Draper, Alex Ramsey, Chris Williams, Simon Spender, Jermaine Johnson, –  Allan – Sean Jones, John Mckenna, Ryan Marriott, Tommy Holmes, Simon Williams, Danny Holmes, Jamie Wood, Craig Williams, Craig Whitfield.

Barn y Cefnogwyr – Angharad ‘Haz’ Jones-

“Dwi’n meddwl bydd hi’n dymor da i’r Seintiau, wedi cryfhau’r garfan ac mae cael Steve Evans yn ôl yn yr amddiffyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r tîm. Mae hi am fod yn dymor cyffrous, a gobeithio gwnawn ni gipio’r bencampwriaeth yn ôl!”

Y Bala :

Stadiwm – Maes Tegid

Rheolwr – Colin Caton

Trosglwyddiadau Haf 2011Mewn –  Michael Byron, Peter Doran, Steffan Edwards, Lee Hunt, Stuart Jones, Liam Loughglin, Conall Murtagh

Allan – Mike Hayes, Danny Jellicoe, Shaun Kelly, Josh Mcauley, Mark Powell

Barn y Cefnogwyr – Richard Arfon Roberts (siarad ar ôl gêm gyfeillgar ym Mhorthmadog – colli 5-2)

“Roedd y gemau cyfeillgar yn mynd yn eitha’ da tan heddiw. Uchelgais  tymor yma ydy sefydlu’r clwb yn y chwech uchaf, ond mi fydd  Mike Hayes (ymosodwr a symudodd i Airbus) yn golled”.