Brendan Rodgers, hyfforddwr Abertawe
Mae disgwyl i Wayne Routledge ymuno â thîm uwch-gynghrair Abertawe Dydd Mawrth ar ôl derbyn prawf meddygol.

Derbyniodd Newcastle £2miliwn am y chwaraewr 26 oed dros y penwythnos ar ôl i’r cynnig cyntaf yr Elyrch, sef £1.5miliwn, gael ei wrthod.

Dyma’r ail chwaraewr mwyaf costus i Abertawe ei brynu erioed.

Methodd Routledge, a oedd yn arfer chwarae i dîm dan 21ain Lloegr, ddod i gytundeb i aros gyda Newcastle er bod ganddo ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb gyda’r clwb.

Mae’n debyg fod yr Elyrch wedi gorfod cystadlu gyda chynigion Birmingham, Caerlŷr a Nottingham Forest wrth geisio arwyddo’r asgellwr.

Yn ystod ail hanner y tymor diwethaf, fe fu Routledge gyda QPR ar fenthyg ac fe chwaraeodd ran hollbwysig yn eu hymgyrch i ennill dyrchafiad i’r uwch-gynghrair gan sgorio pum gol mewn 20 ymddangosiad.

Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo sawl chwaraewr o bwys gan gynnwys Jose Moreira, Steve Caulker, Danny Graham a Leroy Lita.