Gary Speed - tasg anodd
Nos Sadwrn, fe ddatgelwyd y timoedd y bydd Cymru yn eu hwynebu os ydyn nhw am gyrraedd Cwpan Pêl-droed y Byd Fifa, ym Mrasil, 2014.

Bydd rhaid i Gymru herio Croatia, Serbia, Gwlad Belg, Macedonia a’r Alban yng ngrŵp A os ydynt am ennill lle yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd Sweden yn 1958.

Teimla Gary Speed, rheolwr Cymru, eu bod yn lwcus iawn i gael osgoi rhai o dimoedd mawr y byd,

“Does dim timoedd gwael rŵan,” meddai. “Ond rydym ni wedi osgoi Sbaen, yr Eidal, Lloegr. Felly rydw i’n teimlo’n weddol hyderus am y grŵp.”

Cytuna Ian Gwyn Hughes, Sylwebydd a phennaeth cyfathrebu’r FAW.

“Dwi ddim am ddweud ein bod ni am ennill y grŵp, ond mi fyddai hi wedi gallu bod  yn llawer gwaeth dwi’n meddwl,” meddai.

“Y peth pwysig yw ein bod ni’n cychwyn yn dda. Mae pwy fydd rhaid i ni chwarae’n gyntaf, ac yn lle, yn mynd i fod yn arwyddocaol iawn –  dw i’n credu y gallai Cymru fod yn gystadleuol yn y grŵp yma.”

Ond credai’r sylwebydd a chyflwynwr Sgorio, Dylan Ebenezer, fod gan Gymru lawer iawn o waith i’w wneud os ydynt yn anelu i fod yn un o’r 13 gwlad o Ewrop i gyrraedd Brasil.

“Dwi’n credu bydd pobl yn edrych ar y grŵp ac yn meddwl fod gennym ni siawns da, ond mae gan Wlad Belg chwaraewyr gwych erbyn hyn, ac mae Croatia yn parhau yn gryf iawn. Bydd gorfod teithio i Serbia ac i Facedonia yn dipyn o her hefyd.”

Ar ôl ôl cyfres o berfformiadau gwael gan Gymru yn ddiweddar mae rhai’n ofni nad oes llawer o obaith am ymgyrch llwyddiannus y tro hwn chwaith.

“Rhaid cyfaddef nad ydw i’n gobeithio gormod, o ystyried y ffordd y mae Cymru wedi bod yn chwarae,” meddai Dylan Ebenezer.